Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Elfyn Llwyd, Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn ffurfio Llywodraeth newydd Cymru, efallai y byddai o fudd i Aelodau’r Senedd gael gwybod bod Llywodraeth flaenorol Cymru, ychydig cyn y cyfnod cyn-etholiadol, wedi rhoi ei chydsyniad i dri Offeryn Statudol y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. 

Rhoddodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ei gydsyniad i Reoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu: Iechyd Planhigion) (Diwygio) 2026, a osodwyd gerbron Senedd y DU o dan weithdrefn negyddol ar 28 Ebrill 2026. Rhoddodd hefyd ei gydsyniad i Reoliadau Cemegau (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio, Darpariaeth Ganlyniadol a Throsiannol) 2026, a osodwyd o dan weithdrefn gadarnhaol ddrafft ar 24 Chwefror 2026. Rhoddodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei chydsyniad i Reoliadau Rhaglen Erasmus+ (Prosesu Data) 2026, a osodwyd o dan weithdrefn negyddol ar 30 Ebrill 2026.

Roedd y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, a oedd yn llywodraethu'r trefniadau yn ystod y Chweched Senedd, a pheidiodd â chael effaith adeg ei diddymu, yn darparu y byddai Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at bwyllgorau perthnasol i roi gwybod iddynt am fwriad i gydsynio i Lywodraeth y DU arfer pwerau deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, gan egluro’r rhesymeg dros y bwriad i gydsynio. Gwnaeth Gweinidogion blaenorol Cymru ddilyn y dull hwn, a chyflwyno llythyr cyn-gydsynio i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a phwyllgorau perthnasol eraill.

Yn unol â’r canllawiau ynghylch didueddrwydd Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol a’r cyfnod etholiadol, nid oedd yn bosibl gosod Datganiadau Ysgrifenedig gerbron y Senedd yn ystod y cyfnodau hyn.

Er nad oes cytundeb ffurfiol ar waith ar hyn o bryd, i sicrhau tryloywder, rwy’n hysbysu’r Senedd y cafodd Offerynnau Statudol y DU a restrir uchod eu gosod gerbron Senedd y DU yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Darperir yr hysbysiad hwn er gwybodaeth yn unig ac nid yw’n ymgais i geisio nodi’r safbwynt y gall Llywodraeth bresennol Cymru ei gymryd o ran y materion hyn.