Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Diwygiadau Amrywiol)

(Ymadael â'r UE) 2018

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·         Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan o Swyddogaethau Buddsoddi) 1996

·         Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Ni fydd y diwygiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Diben y diwygiadau

Diben yr OS (gweithdrefn negyddol) hwn yw cywiro diffygion yn neddfwriaeth y DU, yn ddarostyngedig i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn ymwneud â chyllid llywodraeth leol.  

I grynhoi, bydd yr OS hwn yn diddymu cyfeiriadau at gwmnïau wedi'u rheoleiddio dan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nad ydynt wedi'u hawdurdodi i gynnal gweithgareddau wedi'u rheoleiddio yn y DU, fel mai cwmnïau wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unig fydd yn gymwys i weithredu fel contractwyr ar gyfer swyddogaethau buddsoddi llywodraeth leol.

Bydd yr OS hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau addysgol sydd wedi'u lleoli yn y DU ac yn Aelod-wladwriaethau'r UE yn parhau i gael eu diystyru at ddibenion y dreth gyngor. Bydd hyn yn golygu newid y cyfeiriad at "Aelod-wladwriaeth" i "awdurdod perthnasol" a diffinio'r awdurdod perthnasol i olygu Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth.

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, ac sy'n nodi effaith y diwygiad hwn, i’w gweld yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments/the-local-government-miscellaneous-amendments-eu-exit-regulations-2018 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, ac fe wnaed y ddeddfwriaeth wreiddiol cyn datganoli. O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.