Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i aelodau am fater sy’n destun pryder yn ymwneud â’r pensiynau sy’n daladwy i ddiffoddwyr tân a ymddeolodd rhwng 2001 a 2006.  

Fel y mwyafrif o bobl sydd wedi ymddeol, caiff diffoddwyr tân ddewis cymryd rhan o’u pensiwn fel cyfandaliad yn lle hynny.  Yr enw ar y broses hon yw cymudo, ac fel rhan o’r broses rhaid i actiwari gyfrifo ffactorau sy’n trosi taliadau pensiwn blynyddol yn gyfandaliadau o werth cyfatebol dros oes nodweddiadol pensiynwr.

Mae Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD) yn gyfrifol am wneud hyn mewn perthynas â’r mwyafrif o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Rhwng 2001 a 2006, ni ddiwygiodd GAD y ffactorau cymudo ar gyfer cynlluniau pensiwn tân a’r heddlu, er bod rhesymau cadarn paham y dylent fod wedi gwneud hynny, megis newidiadau mewn disgwyliad oes ar gyfartaledd.

Cwynodd sawl pensiynwr am hyn wrth yr Ombwdsmon Pensiynau.  Mewn achos prawf yn  ymwneud â diffoddwr tân o’r Alban (Mr Milne), dyfarnodd yr Ombwdsmon y dylai GAD fod wedi diweddaru’r ffactorau cymudo, a bod y methiant i wneud hynny’n golygu bod cyfandaliadau a dalwyd i bob diffoddwr tân ledled y DU a ymddeolodd rhwng y dyddiadau hyn wedi cael eu camgyfrifo. Yn y mwyafrif o achosion, bydd pobl sydd wedi ymddeol wedi cael symiau llai na’r hyn yr oedd ganddynt hawl i’w cael, a dyfarnodd yr Ombwdsmon y dylent gael iawndal ar ffurf y cyfandaliad, ynghyd â llog.  

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn dyfarniad yr Ombwdsmon, ac mae’r Trysorlys wedi cytuno i dalu costau iawndal ledled y DU. Mae gwaith ar y gweill bellach i nodi’r rhai yr effeithir arnynt, i gyfrifo faint o iawndal sy’n daladwy iddynt a’u talu. Nes y bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, ni allwn wybod graddfa’r broblem, ond mae’n debygol o effeithio ar gannoedd o ddiffoddwyr tân sydd wedi ymddeol yng Nghymru, gyda chyfanswm yr iawndal yn dod i filiynau o bunnoedd.

Gan amlaf, y cyflogwyr a’r rhai sy’n gweinyddu cynlluniau pensiwn ar eu rhan sy’n gyfrifol am y gwaith hwnnw.  Yng Nghymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu cynlluniau pensiwn ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub De Cymru; a Chyngor Sir Caerfyrddin sy’n gweinyddu cynlluniau pensiwn ar gyfer y ddau arall.  Hwy yn unig sy’n meddu ar y cofnodion a’r manylion cyswllt y mae eu hangen i gwblhau’r gwaith hwn. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw hwn, ac ni all fy swyddogion na minnau ddelio ag achosion unigol.  Dylwn bwysleisio hefyd i’r gwall gwreiddiol ddigwydd cyn i’r cyfrifoldeb dros bensiynau diffoddwyr tân gael ei ddatganoli i Gymru.  

Er hynny, ni sy’n gyfrifol am oruchwylio’r broses o dalu iawndal.  Mae’n berffaith ddealladwy bod y rhai y mae’r gwall hwn yn effeithio arnynt yn dymuno cael y cyfandaliadau a oedd yn ddyledus iddynt hyd at 14 o flynyddoedd yn ôl ar unwaith.  Mae angen talu iawndal iddynt cyn gynted â phosibl, ond mae’n bwysig sicrhau hefyd nad oes gwallau pellach yn cael eu gwneud wrth gywiro’r sefyllfa. Rydym felly wedi rhoi canllawiau manwl i weinyddwyr y cynllun pensiwn, ynghyd â chyfrifiannell y mae GAD wedi’i pharatoi, ac a fydd yn cyfrifo’r iawndal sy’n ddyledus yn gyflym ac yn gywir yn y mwyafrif o achosion. Mae’n anochel y bydd rhai achosion eraill yn gymhleth, ac efallai y bydd yn anodd cysylltu â rhai unigolion erbyn hyn.  Serch hynny, rydym bellach yn disgwyl i’r gweinyddwyr gwblhau’r gwaith hwn yn gyflym, a hynny erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon fan bellaf.