Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cynghorau cymuned a thref yw haen fwyaf lleol llywodraeth leol. Gallant fod yn falch o’u gallu i arloesi a bod yn greadigol wrth gefnogi eu cymunedau.
Mae defnyddio technoleg ddigidol yn galluogi cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy effeithlon, yn ogystal â’i gwneud yn fwy hygyrch i bobl gyfranogi’n ehangach at yr hyn y mae cynghorau’n ei wneud. Fodd bynnag, i gydnabod pryderon ynghylch gallu a chapasiti digidol amrywiol y sector, mae tîm y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol (LGCDO) wedi ystyried parodrwydd digidol presennol cynghorau cymuned a thref.
Hoffwn ddiolch i gynghorau cymuned a thref sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil hon am rannu eu profiadau a’u barn mewn modd mor adeiladol.
Rydw i’n falch o gael adroddiad y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r ymchwil wedi cadarnhau bod amrywiaeth sylweddol ar draws y sector. Efallai bod hyn i’w ddisgwyl o ystyried nifer y cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, a’u hamrywiaeth. Er bod nifer o gynghorau wedi nodi bod eu trefniadau digidol wedi gwella ers y pandemig, ac mae arferion da i gyfeirio atynt, mae’n amlwg bod angen gweithredu er mwyn galluogi cynghorau cymuned i weithio’n hyderus yn ddigidol.
Mae adroddiad y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol yn cynnwys cyfres o feysydd eang yr argymhellir gweithredu arnynt, gan gynnwys meysydd yn ymwneud â:
- Diffinio’r gofynion digidol yn glir ar gyfer cynghorau cymuned;
- Sicrhau nad yw cyfarfodydd hybrid na heriau technegol yn rhwystrau i gynghorau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Teilwra hyfforddiant a chefnogaeth i rolau penodol yn y cyngor (ee, cadeiryddion, cynghorwyr, swyddogion);
- Sicrhau seilwaith digidol sy’n addas at y diben;
- Darparu canllawiau a chyngor clir ar galedwedd ac offer digidol addas;
- Meithrin capasiti ac arbenigedd ar draws y sector;
- Newid y diwylliant yn y sector tuag at wasanaethau digidol;
- Galluogi rhannu arferion da.
Rwy'n cydnabod ac yn cytuno â'r dadansoddiad. Yn hollbwysig, mae'r argymhellion hyn yn ei gwneud yn glir nad tasg i Weinidogion Cymru yn unig yw hon. Mae angen i Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol lunio a chyflwyno’r ymateb i’r adroddiad hwn ar y cyd, gan ystyried profiad y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol. Bydd gweithgor mewnol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r partneriaid allweddol hyn a’m swyddogion, nawr yn datblygu cynllun gweithredu a arweinir gan y sector. Rwyf wedi cytuno ar fuddsoddiad o hyd at £150,000 i gefnogi’r gwaith a rhoi hwb iddo.