Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn gwybod bod yr aelodau, a hefyd bobl Cymru, yn awyddus i ddeall pa gamau nesaf y gallwn eu cymryd i symud ymlaen at fywyd y tu hwnt i COVID-19, a’r hyn y mae’n ei olygu i’n gwasanaethau iechyd a gofal wrth i’r pwysau arnynt leihau. 

Ar hyn o bryd, rydym yn troedio’n ofalus iawn, ond serch hynny rydym yn optimistaidd ynghylch y sefyllfa oherwydd effeithiau’r cynnydd rhagorol a wnaed wrth weithredu’r rhaglen frechu, a’r gostyngiad parhaus yng nghyfraddau trosglwyddo’r feirws. Rydym yn ddiolchgar bod hyn yn dechrau lleihau’r pwysau ar y GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi cyfle inni edrych tuag at y dyfodol a sut y gallwn fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd, ac ar yr arloesi a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan edrych ymlaen at gyfnod o adfer.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru  – COVID-19: edrych tua’r dyfodol, sy’n disgrifio ein dull gweithredu uchelgeisiol ond ymarferol ar gyfer ailadeiladu ein system iechyd a gofal yng Nghymru, a hynny mewn modd sy’n sicrhau bod tegwch yn ganolog iddi.

Mae’r cynllun Cymru Iachach eisoes wedi ein gosod ar drywydd at drawsnewid. Mae’n darparu sail ar gyfer cydweithio a gwneud pethau’n wahanol er mwyn creu amgylchedd cadarn ac ystwyth, gan gadw mewn cof yr angen i ddarparu’r math o wasanaethau sydd o bwys i bobl Cymru. Rydym bellach mewn sefyllfa i gymryd camau sylweddol o ran mabwysiadu technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio, er mwyn gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pwysigrwydd gwaith atal a gwella llesiant ym maes iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn rhan gwbl hanfodol o sut y dylem fynd ati i ailadeiladu gwasanaethau a darparu gofal. Wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol, rydym yn awyddus i gyflawni ein hymrwymiad i’r nodau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, er mwyn sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. 

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru  - COVID-19: edrych tua’r dyfodol yn nodi’r colofnau y bydd y system gyfan yn seiliedig arnynt er mwyn inni allu mynd ati i adfer o’r pandemig. Mae’r colofnau hynny’n cynnwys:

  • Gofal sylfaenol a chymunedol
  • Gwasanaethau effeithiol yn ein hysbytai
  • Gofal cymdeithasol di-dor
  • Gwasanaethau iechyd meddwl sy’n darparu’r cymorth priodol
  • Llesiant ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol  

Bydd y rhain yn cael eu hategu a’u galluogi gan yr hyn a ddysgwyd y llynedd, ochr yn ochr â’r cyflymu a’r gweithredu sydd wedi digwydd ym maes data a chymorth digidol.

Mae cyfraniad eithriadol ein gweithlu iechyd a gofal, wrth iddynt ddarparu gofal mewn modd caredig ac ymroddgar, wedi bod yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r pandemig hwn. Mae’r cadernid y maent wedi ei ddangos drwy gydol y pandemig, ac yn parhau i’w ddangos, yn ysbrydoliaeth inni i gyd. Unwaith yn rhagor, hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am bopeth y maent wedi ei wneud.

Mae’r angen i greu gweithlu cadarn ac egnïol, sy’n cael y gefnogaeth briodol, yn parhau’n gwbl allweddol, ac mae’n un o’r prif nodweddion sy’n cael eu nodi yn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru  – COVID-19: edrych tua’r dyfodol. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos faint yr ydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod eu sgiliau a’u hymroddiad, a hefyd pwysigrwydd eu llesiant, yn rhan annatod o system iechyd a gofal flaengar. Mae cydnabod bod pob un ohonynt yn cyfrif, a bod angen iddo gael y cyfle i gyfrannu hyd eithaf ei allu, yn ganolog i’n dull gweithredu.

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru  – COVID-19: edrych tua’r dyfodol yn adeiladu ar y gwersi allweddol a ddysgwyd, ac mae’n disgrifio’r cyfleoedd a’r blaenoriaethau wrth inni adfer ar ôl effeithiau niweidiol y pandemig. Mae’n dangos ein hymrwymiad i bartneriaethau cymdeithasol, gwerthoedd, a’r disgwyliad y bydd dulliau gweithredu integredig ar waith ac y bydd y pethau hyn yn cael eu cyflawni.

Nid oes modd unioni’r sefyllfa bresennol ar unwaith, a rhaid ymdrechu i fynd i’r afael â’r holl waith ac achosion sydd wedi cronni ac sy’n parhau i aros i gael sylw. Mae gennym hyder diysgog y bydd ein partneriaid iechyd a gofal yn ymateb yn egnïol i’r heriau sydd o’n blaenau er mwyn ailadeiladu’r gwasanaethau teg, cadarn a gofalgar y mae pobl Cymru yn eu haeddu.