Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwerthusiad Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, Adroddiad Blynyddol 2023-24, wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau gwerthuso thematig am gynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru.

Mae’r gwerthusiad yn cael ei arwain gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerefrog, Kings College Llundain, a Phrifysgol Northumbria. 

Mae’r gwerthusiad a gomisiynwyd yn rhedeg o fis Tachwedd 2022 i 2027, gan adrodd yn flynyddol drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd fframwaith gwerthuso mwy hirdymor sy’n defnyddio data gweinyddol yn cael ei ddatblygu i’n galluogi i ddeall effaith y cynllun peilot ar fywydau’r rhai sy’n cymryd rhan y tu hwnt i 2027. 

Mae’r cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn bolisi uchelgeisiol ac arloesol, ac mae’n hanfodol bod y gwerthusiad yn darparu asesiad trylwyr ac eang o’i effaith. Mae’r gwerthusiad yn dal yn ei gamau cynnar, ac mae angen arfer gofal addas wrth lunio unrhyw gasgliadau o’r data ar hyn o bryd.

Mae’r adroddiad gwerthuso ar gael drwy’r ddolen atodedig: Gwerthuso’r cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl Ifanc sy’n gadael gofal yng nghymru: adroddiad blynyddol 2023 i 2024