Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru. Bydd y cynllun, sy'n dod i rym ym mis Ebrill 2019, yn cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol sydd wedi'u contractio ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer meddygol yn y GIG.

Bydd y cynllun mor debyg â phosib i'r cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth a gyhoeddwyd yn Lloegr, er mwyn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais o gymharu â rhai Lloegr. Bydd hynny hefyd yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio yn sgil gwahanol gynlluniau yn gweithredu yn y ddwy wlad.

Mae cyhoeddi cynllun o’r fath yn mynd i helpu i roi sylw i bryderon meddygon teulu am fforddiadwyedd premiymau indemniad proffesiynol a'r effaith bosib ar wasanaethau a materion ehangach fel recriwtio a chadw meddygon. Amcangyfrifir bod premiymau indemniad wedi codi 7% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2013 a 2017.Ymysg y ffactorau sy'n arwain at godi costau indemniad mae poblogaeth sy'n heneiddio; arloesi technolegol mewn meddyginiaeth sy'n cadw pobl yn fyw am gyfnod hwy; cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw â chyflyrau cymhleth a diwylliant o hawlio iawndal.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r newidiadau i'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn 2017/18, i ddatblygu ateb i'r mater hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i wneud hynny. Ar ben hynny, drwy'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tuag at gostau cynyddol indemniad proffesiynol meddygon teulu ers 2017/18 drwy'r ymgodiad blynyddol i'w tâl a'u costau.  

Bydd y cynllun yn cynnig ateb cynaliadwy, hirdymor i gostau cynyddol indemniad proffesiynol meddygon teulu.      

Bydd y cynllun gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn cynnig indemniad i unigolion rhag hawliadau esgeuluster clinigol yn codi o waith y GIG, ond ni fydd yn cynnwys gwaith preifat, cwynion, cyfranogaeth yn achosion y crwner, gwrandawiadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol na materion eraill yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynol.  Disgwylir i feddygon teulu gymryd yswiriant indemniad ar gyfer gwaith preifat ac agweddau eraill tu hwnt i'r hyn sy'n cael sylw gan y wladwriaeth.  

Bydd y cynllun yn cynnwys gweithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol wrth gynnig gwasanaethau meddygol cyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau esgeuluster clinigol sy'n codi o weithgarwch staff practis meddyg teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill sy'n gweithio i'r practis wrth ddarparu'r gwasanaethau wedi'u contractio.  

Dros y misoedd nesaf, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio ymhellach gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Sefydliadau Amddiffyn Meddygol a Chronfa Risg Cymru ynghylch gweithrediad y cynllun.

Byddaf yn darparu Datganiad Ysgrifenedig pellach maes o law.