Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau am y camau rwy'n eu cymryd i sicrhau mwy o dryloywder o ran taliadau gwasanaeth sy'n cael eu codi ar lesddeiliaid gan landlordiaid cymdeithasol am waith mawr.

Yn aml iawn nid yw lesddeiliaid yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldeb i gyfrannu at gost gwaith mawr ar eu bloc fflatiau nes iddynt gael biliau am waith atgyweirio.  Gall lesoedd amrywio ac er mai nifer cymharol fach o lesddeiliaid yng Nghymru sy'n debygol o gael biliau atgyweirio, rwy'n ymwybodol o'r pryder a achosir i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan hyn.
Er mwyn i lesddeiliaid ddeall gwaith mawr sy'n cael ei gynllunio a faint y dylent fod yn ei dalu tuag ato, yn fy marn i, byddai o gymorth pe bai landlordiaid yn cysylltu â nhw'n gynnar yn y broses, a hynny hyd yn oed cyn i'r broses ymgynghori ffurfiol ddechrau. Rwyf eisiau sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu cynnwys gan eu landlord, a'i fod yn ymgynghori'n llawn â nhw, fel bod y broses yn dryloyw.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i LEASE  ddatblygu canllawiau arfer da ar gyfer landlordiaid a lesddeiliaid fel bod hawliau, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau pob parti'n eglur. Bydd astudiaethau achos yn tynnu sylw at enghreifftiau o landlordiaid yn ymgysylltu â lesddeiliaid er mwyn helpu i sicrhau bod biliau yn deg, yn dryloyw ac y gellir eu cyfiawnhau.

Rwyf hefyd wedi gofyn i LEASE ddatblygu proses adolygu/cyfryngu annibynnol yng Nghymru er mwyn lleihau o bosibl yr angen i ddefnyddio'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (LVT). Ar hyn o bryd yr LVT yw'r unig gam sydd ar gael i ddatrys anghydfodau. Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig cyngor diduedd ac yn ceisio datrys yr anghydfod heb fod angen troi at yr LVT. Fodd bynnag, bydd modd gwneud cais i'r LVT yn ddiweddarach os bydd unrhyw barti'n dymuno gwneud hynny. Mae manylion y broses yn cael eu datblygu ond rwy'n rhagweld y bydd y gwasanaeth yn ariannu'i hun, gyda chyfraniadau gan y landlord a'r lesddeiliad yn ôl y gofyn. Bydd landlordiaid a lesddeiliaid yn cymryd rhan yn y broses fel ei gilydd ac yn cael cyfrannu at baratoi'r canllawiau a'r gwasanaeth adolygu.  
 
Mae'r gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo ac yn gwneud cynnydd da. Rwy'n disgwyl y bydd y canllawiau a'r gwasanaeth adolygu annibynnol ar gael o'r Hydref hwn ymlaen.