Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio Ap GIG Cymru ar ei newydd wedd, gan ddarparu mynediad gwell i ddefnyddwyr, gwasanaethau cyson a chyfres o swyddogaethau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno’n raddol dros y flwyddyn nesaf. 

Os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, rwy’n annog pobl i gofrestru ar gyfer Ap GIG Cymru drwy eu ffôn clyfar neu ar y wefan wrth inni fynd ati o ddifrif i hybu ein hymrwymiad i ddarparu gofal i bobl sydd wedi’i bersonoli’n well, a sicrhau hefyd fod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain. 

Drwy ddarparu mynediad gwell, bydd y rheini nad ydynt yn gallu defnyddio swyddogaeth Mewngofnodi’r GIG ar-lein i ddilysu eu hunaniaeth ar hyn o bryd – er enghraifft, oherwydd nad oes ganddynt unrhyw ddyfais adnabod a gyhoeddwyd gan y llywodraeth, neu oherwydd rhwystrau digidol, neu heriau eraill – yn gallu gwneud hynny yn eu meddygfa gan ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru.

Drwy Ap GIG Cymru, sy’n adnodd dwyieithog, bydd pob defnyddiwr yn gallu mynd ati ar unwaith i archebu presgripsiynau rheolaidd, gweld eu llinell amser iechyd a’u hanes o ran presgripsiynau, cael mynediad at gyngor a gwybodaeth iechyd, gan gynnwys gwasanaethau sgrinio a llesiant a negeseuon diogel ac adborth gan ddefnyddwyr. 

Dros y flwyddyn sydd i ddod, bydd diweddariadau i’r ap yn caniatáu i bobl gadw golwg ar ble y maen nhw ar y rhestr aros am driniaeth, gweld apwyntiadau ysbyty, a gofyn am ganlyniadau profion, ynghyd â manteisio ar amrywiaeth o adnoddau i’w helpu i reoli eu hiechyd wrth iddynt aros am driniaeth yn yr ysbyty. 

Ein huchelgais yn y pen draw yw y bydd Ap GIG Cymru yn gweithredu fel drws ffrynt digidol ar gyfer holl wasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol.

Byddaf yn gwneud datganiad i’r Senedd am ddatblygiad Ap GIG Cymru a’i swyddogaethau cyn toriad yr haf.