Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Arolwg Cenedlathol cyntaf Cymru am y Gweithlu Addysg yn cael ei lansio ar 31ain Hydref. Mae’r arolwg, sydd i’w weinyddu gan y Cyngor Gweithlu Addysg, yn rhoi cyfle unigryw i’r proffesiwn yng Nghymru i adlewyrchu ar eu profiadau a rhoi eu barn ar amryw o faterion sy’n eu effeithio.

Tra bod polisïau yn cael eu trafod ar led gyda nifer o rhanddeiliaid mae yna nifer o feysydd polisi lle mae yna ychydig iawn o dystiolaeth annibynol i’w gael ar farn y gweithlu addysg ar faterion allweddol. Mae arolygon yn cael eu rhedeg gan sefydliadau eraill yn aml ar faterion megus llwyth gwaith. Er hynny, yn aml mae’r data llawn ar sail Lloegr a Chymru a ni chyhoeddir y data gwaelodol llawn.

Mae’r arolwg peilot hwn yn cynnig cyfle pwysig ac amserol i weithio’n agos gyda’r proffesiwn i fesur eu barn ar nifer o feysydd allweddol. Mi fydd yn rhoi adnodd defnyddiol fel tystiolaeth ar gyfer datbygu polisïau mewn perthynas ag adeiladu gallu mewn ysgolion a datblygiad a gweithrediad Dyfodol Llwyddiannus.

Mae cyfres o arolygon ar-lein wedi’u ddatblygu sy’n cynnwys athrawon a gweithwyr cymorth mewn gosodiadau ysgol ac addysg bellach, ynghyd â gweithwyr cyflenwi. Bydd yr arolwg yn ymdrin ag amryw o feysydd allweddol yn cynnwys datblygiad proffesiynol, rheoli perfformiad a llwyth gwaith.  Bydd canlyniadau o’r arolwg yn helpu yng ngweithrediad a monitro poisïau sy’n berthnasol â’r gweithlu. Mi fydd yn darparu gwaelodlin ar gyfer arolygon yn y dyfodol ac yn ein galluogi i fesur sut mae Cymru yn gwella yn ei effeithiolrwydd mewn symud ei agenda ar ddiwygiadau ym maes addysg ymlaen.

Mae’r arolwg yn dangos y gwerth rydym yn gosod ar ein gweithlu addysg ac ein ymrwymiad i sicrhau eu bod wrth galon datblygiadau ar faterion sy’n eu effeithio. Rydw i eisiau sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen a’u bod yn gallu dysgu wrth eu gilydd, gan wella trwy’r amser i helpu darparu addysg o safon fyd-eang i Gymru.

Mae’r arlowg ar gael ar www.ewc.wales.