Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol ar agor i geisiadau heddiw am chwe wythnos.

Cyhoeddais yn fy Natganiad Llafar ar 7 Mehefin y bydd y nodau a’r camau gweithredu sy’n ymwneud â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'n hymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu i gynrychioli ac adlewyrchu hanes pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cefnogi gan £4.25 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf.

Mae o leiaf £1.75 miliwn o'r arian hwn wedi'i ddyrannu i Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol. Mae hwn yn gynllun grant cystadleuol ar draws y sectorau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, sydd wedi agor heddiw.

Bydd y Gronfa yn galluogi prosiectau sy'n cyflawni’r nodau a’r camau gweithredu sy’n ymwneud â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yn y Cynllun Gweithredu a'n hymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd y Gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n cael cymorth cymunedol ac sy'n gallu sicrhau newid cadarnhaol a chynaliadwy i bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra, gan gynnwys sut i wneud cais, i’w gweld yma:

Rwyf hefyd yn falch o ddarparu manylion ychwanegol am y gronfa ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad, y byddwn yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Mae o leiaf £600,000 wedi'i neilltuo dros y tair blynedd nesaf yn benodol ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad. Mae fy swyddogion wrthi'n datblygu ymarfer caffael i nodi sefydliad partner i gyflawni hyn ar ein rhan. Mae hyn yn cyflawni cam gweithredu allweddol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i nodi adnodd penodol wedi'i neilltuo i gefnogi gweithgareddau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rwyf hefyd wrthi'n ystyried cynigion gan ein cyrff cenedlaethol a noddir. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar y gronfa ar lawr gwlad a'r gwaith a gyflawnir gan ein cyrff cenedlaethol a noddir maes o law.

Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn fy mhortffolio. Edrychaf ymlaen at ein cynnydd parhaus wrth inni gyflawni newid ystyrlon law yn llaw â phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.