Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n lansio’r cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2020-2022.

Hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o bump o gynlluniau cyflawni dwy flynedd sy'n rhan o'r strategaeth 10 mlynedd ehangach, Pwysau Iach: Cymru Iach, a lansiais ym mis Hydref y llynedd.

Mae'r cynllun ar gyfer 2020-2022 yn rhoi pwyslais mawr ar y blynyddoedd cynnar, plant a theuluoedd. Mae'n canolbwyntio ar atal, ac rwyf am weld ymyriadau wedi'u targedu a fydd yn helpu pobl drwy wneud dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd. Byddwn yn buddsoddi £5.5 miliwn bob blwyddyn yn y gwaith o weithredu Pwysau Iach: Cymru Iach i helpu i gyflawni meysydd allweddol y cynllun. Mae hyn yn cynnwys:

  • £2.9m i fyrddau iechyd a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau cymorth i helpu oedolion, pobl ifanc a theuluoedd i gynnal pwysiau iach
  • £1.2m i ddatblygu systemau a gweithio gyda phobl leol i nodi atebion
  • £600,000 ar gyfer rhaglen plant a theuluoedd i ddatblygu atebion yn lleol
  • £500,000 i'w fuddsoddi mewn cynnig chwaraeon a hamdden ar gyfer pobl dros 60 oed
  • £300,000 i ariannu grantiau ar gyfer cyrff chwaraeon ac i werthuso

Mae’r strategaeth a’r cynllun cyflawni wedi cael cefnogaeth gref, yn dilyn cydweithio ar draws adrannau'r llywodraeth a chyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod tystiolaeth ryngwladol, arferion gorau a dealltwriaeth o ymddygiad yn sylfeini cadarn i’r cynllun cyflawni. Rwyf hefyd wedi cadeirio cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol i drafod y cynllun drafft, lle'r oedd cefnogaeth gref i'w gwmpas cychwynnol a'i uchelgeisiau.

Nid yw'r dasg yn un hawdd a’r cam cyntaf yw’r cynllun cyflawni cyntaf hwn ar y daith y byddwn yn mynd arni fel Llywodraeth er mwyn sicrhau newid yn yr hirdymor. Rydym yn hyderus y bydd rhagolwg clir, dull gweithredu cryf yn seiliedig ar dystiolaeth a gwerthuso parhaus yn arwain at newid go iawn. Byddaf yn gosod fframwaith canlyniadau pellach ac yn datblygu dull gwerthuso yn nes ymlaen eleni. Bydd y rhain yn sail i’r gwaith o gyflawni’r strategaeth. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i lansio ymgynghoriad pellach ar ein dull cyn yr haf, er mwyn ystyried newidiadau yn yr amgylchedd bwyd.

Rwy'n croesawu cefnogaeth drawsbleidiol barhaus wrth inni symud ymlaen i gyfnod o gyflawni dwys gyda'n partneriaid ledled Cymru.