Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio a Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid
Cafodd Cynllun Grant Cyllid Tai Cymru ei lansio heddiw. Bydd y pecyn, a fydd yn cynnwys tua £120 miliwn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru dros y 30 mlynedd nesaf, yn cyfrannu’n uniongyrchol at adeiladu dros 1000 o dai newydd fforddiadwy ledled Cymru.
Mae ugain o Gymdeithasau Tai yn cymryd rhan yn y cynllun, a fydd yn weithredol yn ardaloedd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd gwaith adeiladu ar y prosiectau cyntaf yn dechrau eleni.
M&G Investments yw’r brif ffynhonnell cyllid newydd i’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Datblygwyd y cynllun ei hun er mwyn ymateb i’r diffyg cyllid hirdymor sydd ar gael oddi wrth y banciau a’r cymdeithasau adeiladu ar hyn o bryd.
Bydd y pecyn newydd arloesol hwn yn helpu i gynyddu’r cyflenwad tai ac yn fodd i sicrhau bod tai fforddiadwy o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar gyfer pobl Cymru. Bydd y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu o dan y cynllun yn helpu i ddiwallu anghenion cymunedau o ran tai, ac yn hybu gweithgarwch economaidd.
Er gwaethaf y gostyngiadau sylweddol a wnaed i’r gyllideb gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sefyll yn gadarn dros Gymru. Mae’r cynllun hwn yn tystio i’n hymrwymiad i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o fuddsoddi mewn tai fforddiadwy ym mhob cwr o Gymru. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio.