Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n rhoi gwybod i’r Aelodau ynghylch lansiad Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol newydd sy’n dair blynedd o hyd (2022-2025) a Chronfa Sgiliau Creadigol. Mae’r rhain yn cyflawni yn erbyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu Corff Sgiliau Creadigol.

Rwyf eisoes wedi rhoi gwybod i’r Aelodau y bydd y Corff hwn yn cael ei gyflawni’n fewnol gan Cymru Greadigol gyda swyddogaeth Cymru Greadigol fanylach yn ymwneud â thalentau a sgiliau, yn ogystal â phanel cynghori craidd newydd i lywio’i waith.

Sefydlwyd y Panel Cynghori Sgiliau Creadigol ym mis Mai 2022 ac mae’n cynnwys 10 gweithiwr proffesiynol o’r sectorau cerddoriaeth, cynnwys digidol a’r sgrin. Mae’r panel hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr darlledwyr, cynrychiolwyr o’r byd hyfforddiant, addysg bellach ac addysg uwch yn ogystal â hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol (2022-2025) wedi’i lywio gan y Panel Cynghori, gyda chymeradwyaeth derfynol gan Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol. Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion sgiliau y tri phrif sector sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr; cerddoriaeth, cynnwys digidol a’r sgrin, yn ogystal ag ystyried anghenion hirdymor a fydd yn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod â sector creadigol sy’n ffynnu.

Mae’r Cynllun hefyd yn ceisio mynd ati i gefnogi a galluogi ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyflawni’r Gwarant i Bobl Ifanc, gan sicrhau’r cyfle i bawb o dan 25 oed i gael gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth yn ogystal â chreu 125,000 o brentisiaethau i bob oedran.

Bydd y Bwrdd Cynghori Sgiliau Creadigol yn parhau i gynghori ar y gwaith o gyflawni’r ddogfen fyw hon a bydd yn ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn er mwyn sicrhau ei bod yn mynd i’r afael ag anghenion, cyfleoedd a heriau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn ystod ei chyfnod cyflawni tair blynedd o hyd.

Mae’r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol (2022-2025) yn cael ei lansio ochr yn ochr â Chronfa Sgiliau Creadigol newydd gwerth oddeutu £1m, a fydd â’r nod i gefnogi prosiectau sy’n cyflawni yn erbyn y 10 maes blaenoriaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu, sef;

  • Hyfforddiant Busnes ac Arweinyddiaeth
  • Cefnogi Talentau
  • Gwella Recriwtio Amrywiaeth a Recriwtio Cynhwysol
  • Lleoliadau a Chyfleoedd Lefel Mynediad
  • Lleoliadau a Chyfleoedd Uwchsgilio
  • Addysg a’r Cwricwlwm Newydd
  • Ymwybyddiaeth Gyrfaoedd
  • Arloesi
  • Pontio’r Bwlch rhwng Addysg Bellach/Addysg Uwch a’r Diwydiant
  • Lles y Gweithlu a Chefnogaeth i Weithwyr Llawrydd

Mae cydweithio a gweithio’n agos â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y diwydiant yn allweddol i lwyddiant y Cynllun. Bydd Cymru Greadigol yn edrych ar barhau â’i hysbryd o weithio mewn gwir bartneriaeth er mwyn unioni gweithgareddau a chanfod cyfleoedd ar gyfer gweithredu ar y cyd.

Bydd y Gronfa ar agor nes 7 Tachwedd. Rydym yn edrych am brosiectau gwych a chydweithredol sydd o gymorth i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn, yn ogystal â sicrhau cyfleoedd gwych i’r rheini o bob cefndir sy’n gweithio yn y sector neu sy’n chwilio am gyfleoedd i weithio yn y sector.