Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau am wybod y byddwn yn lansio cynllun cenedlaethol newydd heddiw yng Nghanolfan Hamdden Risca, Caerffili, i ddarparu nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog.

Nofio am ddim i Luoedd Arfog a chyn-filwyr yw'r fenter ddiweddaraf i gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i Becyn Cymorth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i alluogi ac annog cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog i fwynhau nofio fel dull o weithgarwch corfforol ac mewn cydnabyddiaeth o’r gwasanaeth y maent wedi rhoi i’w gwlad.