Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog a’r Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru, a fydd yn agor i geisiadau o ddydd Gwener 23 Mehefin 2023 ymlaen.

Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn creu’r rhwydwaith Goedwig Genedlaethol gyntaf yn y byd o fewn gwlad, gan gynnwys coetiroedd sy’n eiddo i’r wlad a choetiroedd sy’n eiddo preifat. Bydd y coetiroedd hyn wedyn yn cynhyrchu ecosystemau cysylltiedig a fydd yn dod â manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i Gymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu rhwydwaith o lwybrau cydgysylltiedig ledled Cymru gyfan. Bydd hyn o gymorth i wella cydnerthedd ecosystemau, cynyddu bioamrywiaeth a chreu swyddi a lles. Yn y dyfodol, gall y Goedwig Genedlaethol greu cyfleoedd i dyfu pren Cymreig sydd wedi ei dyfu’n gynaliadwy, tra bydd cymunedau a natur yn elwa o hynny.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn cefnogi camau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau effeithiau newid hinsawdd. Mae angen cynnydd sylweddol ar Gymru o safbwynt creu coetiroedd er mwyn cyrraedd ein targed o greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030, ac i gyrraedd ein targed o ddod yn genedl sero net erbyn 2050.

Mae Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol yn agor y drws i goetiroedd nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol. Gallai’r rhain amrywio o ardaloedd bach o goetiroedd mewn lleoliadau trefol neu ar dir a ffermydd preifat, i goetiroedd cymunedol, ardaloedd mawr o dir sy’n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu goetiroedd cynhyrchiol. Gall unrhyw berchennog tir neu reolwr wneud cais i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol, bydd unrhyw fath o goetir sy’n cael ei reoli’n dda yn gymwys, ac ni fydd cyfyngiad ar nifer y coetiroedd fydd yn gallu cael statws Coedwig Genedlaethol. Mae tîm o chwe Swyddog Cyswllt Coetiroedd y Goedwig Genedlaethol ar gael i helpu perchnogion tir ennill statws Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mae cyllid eisoes yn bodoli ar gyfer cefnogi’r Cynllun Statws. Cronfa grantiau Llywodraeth Cymru yw’r Grant Buddsoddi mewn Coetir, wedi ei ddarparu mewn partneriaeth â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r gronfa wedi ei chynllunio i gynorthwyo perchnogion a rheolwyr coetiroedd greu a gwella coetiroedd er mwyn cyrraedd statws Coedwig Genedlaethol. Yn ogystal â hynny, ar ôl gwneud cais llwyddiannus i’r Cynllun Statws, bydd arwyddion ar gael fel bod pob safle newydd yn cael ei gydnabod fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Ochr yn ochr â 14 o safleoedd enghreifftiol ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, bydd gweddill yr ystâd yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol dros y tair blynedd nesaf.