Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran polisïau heneiddio yn y DU ac yn Ewrop. Yn 2003, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth gyntaf erioed ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, a phenodwyd Comisiynydd Pobl Hŷn cynta'r Byd yn 2008.  

Mae'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, sydd bellach yn y trydydd Cyfnod, yn seiliedig ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Y Ddeddf y sefydlwyd swydd y Comisiynydd drwyddi oedd deddfwriaeth gyntaf y DU i gael Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ar wyneb y Ddeddf.

Ym mis Hydref 2012, gofynnodd y Prif Weinidog i'r Comisiynydd Pobl Hŷn amlinellu'r achos ar gyfer cael dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Mae gan y dull gweithredu hwn sy’n seiliedig ar hawliau gefnogaeth trawsbleidiol.

Ar ôl ystyried adroddiad y Comisiynydd, cyhoeddais ymrwymiad Llywodraeth Cymru i edrych ar ddatblygu Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru. Gofynnais i'r Comisiynydd arwain Grŵp Cynghori i lywio a chynghori am gynnwys, cwmpas ac effaith bosibl Datganiad o'r fath. Roedd y Grŵp Cynghori yn cynnwys pobl hŷn a sefydliadau sy'n gweithio ar gyfer ac ar ran pobl hŷn.

Heddiw, mae'n bleser gennyf lansio Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru. Mae'r datganiad yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl hŷn yng Nghymru yn dweud wrthym sy’n bwysig iddyn nhw yn eu bywydau pob dydd lle maent yn byw.

Mae'r Datganiad yn tynnu sylw at yr hawliau sydd eisoes gan bobl hŷn dan y gyfraith fel Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Datganiad yn glir iawn ynghylch beth sy'n ddisgwyliedig gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, gan amddiffyn eu hurddas a'u hawliau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn, i godi ymwybyddiaeth o'r Datganiad ac i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith a bod ei effaith yn cael ei asesu'n rheolaidd.

Mae'r Datganiad hefyd yn cefnogi fy uchelgais o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru lais cryf a rheolaeth gadarn dros y gwasanaethau y mae angen iddynt eu defnyddio.

Nod y Ddeddf yw hyrwyddo canlyniadau llesiant pwysig y gall pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cefnogaeth eu disgwyl er mwyn byw bywydau llawn. Mae fy natganiad ar Lesiant ar gael ar lein.

Mae'r Datganiad o Hawliau yn adeiladu ar ein diffiniad o lesiant ac yn nodi'r hyn y mae pobl hŷn yn dweud y mae hawliau yn ei olygu iddynt. Bydd y Datganiad yn rhoi cyfeiriad cenedlaethol clir i sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn hawliau pobl a datblygu cryfderau pobl a chymunedau fel bod modd cynnal lefel briodol o annibyniaeth gyda'r lefel briodol o ofal a chymorth.

Mae'r Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru a gyhoeddir heddiw yn garreg filltir bwysig arall i Gymru ac yn gam arall tuag at gyflawni ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau ar gyfer heneiddio.

Mae'r Datganiad ar gael ar lein.