Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Gan adeiladu ar ein cynnydd ym maes ailgylchu, sydd wedi ein gweld yn dod yn arweinydd byd-eang, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r fersiwn ddiweddaraf o ganllawiau arfer gorau Llywodraeth Cymru, Glasbrint Gasgliadau 2025
Mae cyhoeddi'r Glasbrint Casgliadau diweddaraf yn diweddaru'r glasbrint gwreiddiol a gyhoeddwyd yn ôl yn 2011, gan ystyried y gwersi rydyn ni wedi'u dysgu gyda'n gilydd, arferion gorau ein hawdurdodau lleol ledled Cymru a'n strategaeth economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu. Yn yr un modd â dogfen 2011, bwriedir i'r glasbrint fod yn ganllaw i helpu awdurdodau lleol Cymru i ddarparu gwasanaethau sy'n cyfuno fforddiadwyedd ariannol â'r canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol gorau, gan eu cefnogi i gyrraedd y targed ailgylchu statudol gofynnol, sef 70% ar hyn o bryd.
Ers 2011 mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol, nid yn unig wrth ailgylchu ond hefyd wrth atal gwastraff, symud gwastraff i fyny'r hierarchaeth wastraff ac i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac, yn fwy diweddar, dechrau cyflwyno seilwaith i gefnogi atgyweirio ac ailddefnyddio mwy helaeth. Mae ein cyfradd ailgylchu cartrefi, sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol, eisoes yn lleihau allyriadau Cymru tua 400,000 tunnell o CO2 y flwyddyn ac yn lleihau'r llygredd a achosir gan echdynnu a phrosesu deunyddiau crai. Yn dilyn y Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle a ddaeth i rym y llynedd, rydyn ni hefyd eisoes wedi cymryd cam mawr arall ymlaen wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.
Ochr yn ochr â'i bwysigrwydd wrth fynd i'r afael â'r gorchmynion amgylcheddol, rydyn ni'r un mor benderfynol o sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth drawsnewid yn economi gylchol fel elfen graidd o'n gweithredu i sicrhau twf gwyrdd a swyddi. Mae cyhoeddi'r Glasbrint wedi'i ddiweddaru hwn yn gam pwysig, sy'n adeiladu ar ein perfformiad hyd yma ac yn rhoi camau pellach ar waith i helpu Cymru i wella'r gwaith o ailddefnyddio ac atgyweirio nwyddau ymhellach, ochr yn ochr â phrosesau gwell ar gyfer cadw deunyddiau o ansawdd uchel i fynd yn ôl i'r economi.
Mae ein prosesau ailgylchu o'r radd flaenaf ac maen nhw eisoes yn helpu i ddenu mewnfuddsoddi a chreu swyddi. Er enghraifft, bydd ffatri ailgylchu plastig newydd Jayplas yn Abertawe yn prosesu 100,000 tunnell o blastig bob blwyddyn ac yn creu 100 o swyddi newydd. Yng Nglannau Dyfrdwy, mae ailddatblygu Melin Shotton wedi denu buddsoddi o dros £1 biliwn, a bydd y safle'n dod yn un o gyfleusterau mwyaf y DU ar gyfer gweithgynhyrchu byrddau cynhwysydd ffeibr wedi'u hailgylchu, gan greu 220 o swyddi arall. Mae buddsoddiadau o’r fath yn tynnu sylw at y ffordd y gall busnesau, drwy ddod i Gymru, gael mynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu o ansawdd uchel o gadwyni cyflenwi gwydn, diolch i ymdrechion pobl Cymru.
I gefnogi cyflwyno Glasbrint Casgliadau 2025, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Cymru i gynyddu maint ac ansawdd deunyddiau wedi'u hailgylchu, ac i symud ymhellach i fyny'r hierarchaeth wastraff o ran cyflwyno, atgyweirio ac ailddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddarparu mynediad at gymorth arbenigol a chyllid ar gyfer gwelliannau seilwaith i gyflawni'r Glasbrint Casgliadau, ochr yn ochr â gwaith i ddatgarboneiddio gweithrediadau ailgylchu a gwastraff a gwella gwydnwch yr hinsawdd.
Hoffwn ddiolch i'r Awdurdodau Lleol am eu gwaith caled sydd wedi bod mor ganolog i'n taith hyd yma, ac edrychaf ymlaen at barhau â'r bartneriaeth lwyddiannus wrth gyflawni'r fersiwn ddiweddaraf hon o Lasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru.