Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyflwynais y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Ymhlith y darpariaethau niferus yn y Bil mae newidiadau i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau lleol y bwriedir iddynt wella nifer y pleidleiswyr sy’n cofrestru ac ennyn diddordeb mewn democratiaeth.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng i 16 oed ac ymestynnwyd yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys ar gyfer etholiadau’r Senedd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a basiwyd yn ddiweddar. Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn bwriadu gwneud yr un peth ar gyfer etholiadau lleol. At hynny, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol Reoliadau Cynrychiolaeth y bobl (canfasio blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 ger eich bron yn ddiweddar. Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u cynllunio i foderneiddio cofrestru etholiadol a gwella profiad y pleidleiswr. Diben y gyfres hon o ddiwygiadau etholiadol yw diweddaru arferion, gan eu gwneud yn fwy effeithlon ac, yn bwysicaf oll, gwella profiad y pleidleiswr.

Er mwyn cyflawni'r diwygiadau arwyddocaol hyn mae'n hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda holl bartneriaid y sector yng Nghymru, ond yn enwedig gyda thimau’r gwasanaethau etholiadol ym mhob awdurdod lleol. Er nad oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd y newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn gwella profiad y pleidleisiwr, mae goblygiadau i'r rheini sy'n rheoli'r prosesau mewn llywodraeth leol. Ni ellid cyflawni'r un o'r diwygiadau hyn heb waith caled ac ymroddiad parhaus y timau etholiadau ym mhob un o'r 22 awdurdod.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei chefnogaeth i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, eisoes wedi ymrwymo i dalu costau newidiadau hanfodol i systemau meddalwedd rheoli etholiadol a gafwyd yn sgil y newidiadau i'r etholfraint. Yn yr un modd, rydym wedi cytuno i dalu costau newidiadau i ffurflenni cofrestru a ysgwyddwyd gan y Comisiwn Etholiadol.

Yn ogystal â hyn rwyf i, ynghyd â'r Gweinidog Addysg, wedi ymrwymo £800,000 i gefnogi pleidleiswyr newydd a phresennol i ddeall eu hawliau democrataidd ac i fynegi diddordeb mewn prosesau democrataidd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu adnoddau i'w defnyddio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, a thu allan i'r ysgol; ac ymgyrch gyfathrebu benodol i annog pleidleiswyr sydd newydd eu hetholfreinio i gofrestru a chymryd rhan yn etholiadau'r Senedd yn 2021 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2022.

Rydym hefyd am gydnabod a chefnogi gwaith hanfodol timau etholiadol mewn awdurdodau lleol, a dyna pam rwy'n cyhoeddi'r Grant Cymorth Diwygio Etholiadol heddiw.

Bydd y grant hwn ar gael i dimau Gwasanaethau Etholiadol yr holl awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i roi'r diwygiadau etholiadol diweddar, a’r rhai sydd ar fin cael eu cyflwyno, ar waith. Bydd grant refeniw o £100,000 ar gael i bob tîm Gwasanaethau Etholiadol dros 2 flynedd. Bydd y taliad cyntaf o £50,000 yn cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol gyfredol 2019/20. Bydd yr ail daliad o £50,000 yn cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol 2020/2021.

Nod y grant yw cynorthwyo'r timau etholiadol gyda'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ymestyn yr etholfraint, diwygio’r canfasiad blynyddol a diwygiadau etholiadol Cymreig eraill ac yn benodol i gefnogi awdurdodau lleol drwy gofrestru unigolion sydd newydd eu etholfreinio.  Bydd telerau'r grant yn hyblyg, gyda thimau etholiadol yn gallu ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf priodol i'w hawdurdod lleol, ar yr amod bod y gwariant yn ymwneud â'r rhaglen diwygio etholiadol. Gallai gweithgarwch o'r fath gynnwys:

  • ymdrechion i annog grwpiau sydd newydd eu hetholfreinio i gofrestru;
  • ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd gan dargedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;
  • ymchwilio i faterion hygyrchedd wrth bleidleisio;
  • ystyried paru data lleol i helpu i sicrhau bod y gofrestr yn fwy cyflawn.

Bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yn ystod yr wythnosau nesaf i sicrhau bod llythyrau cynnig grant yn cael eu dosbarthu mewn da bryd a bod taliadau'n cael eu gwneud i bob awdurdod cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.