Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru'n lansio Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol, sef gwefan newydd i gyfathrebu'n agored am berfformiad GIG Cymru. Mae'r wefan yn defnyddio graffiau a siartiau hawdd eu deall ac esboniadau manwl, er mwyn cyflwyno data GIG Cymru ynghylch ansawdd a diogelwch o ran byrddau iechyd lleol, ysbytai a’r maes gofal sylfaenol. Yr wythnos hon bydd set gychwynnol o ddata’r byrddau iechyd ar gael ar y wefan, a bydd y cynnwys yn cael ei ddatblygu'n gyflym i gynnwys data am wahanol ysbytai a meddygfeydd. Drwy gyflwyno’r data law yn llaw â thestun esboniadol, mae'r wefan yn cynnig golwg fanylach nag a gafwyd erioed o’r blaen ar  berfformiad y GIG, fel bod y cyhoedd yn cael gwell gwybodaeth ac yn gallu annog a chydnabod gwelliant.

Mae'r wefan yn debyg i'r wefan lwyddiannus Fy Ysgol Leol, ac fe gafodd ei datblygu yn sgil gwaith y Tasglu Tryloywder a Marwolaethau dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.  Gofynnodd fy rhagflaenydd yn benodol am sefydlu’r wefan hon, a hynny mewn Cyfarfod Llawn a oedd yn trafod cyhoeddi Adroddiad Francis. Mae'r mesurau ansawdd a diogelwch yn cyflawni’r ymrwymiad a wnes i ym mis Mawrth i sicrhau y byddai'r Tasglu'n gweithio  i sicrhau gwelliant o ran gwybodaeth a thryloywder. Drwy gymryd y cam pwysig hwn ymlaen, rydym hefyd yn cyflawni’r ymrwymiadau polisi yn Law yn Llaw at Iechyd a Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol.

http://mylocalhealthservice.wales.gov.uk/#/iaith=CYM