Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein Strategaeth Ryngwladol, a lansiwyd ym mis Ionawr, yn nodi tair uchelgais:

  • Codi proffil rhyngwladol Cymru
  • Tyfu ein heconomi drwy allforion a mewnfuddsoddi
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Un o'r amcanion a nodir yn y Strategaeth yw gweithio'n well gyda Chymry ar wasgar, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Cymru. Mae ganddynt y potensial i fod yn gaffaeliaid pwysig yn ein huchelgais i godi proffil rhyngwladol Cymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf felly'n lansio Menter Cenhadon Llywodraeth Cymru yn swyddogol. Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar unigolion sydd ar frig eu maes, ac a all ein helpu i agor drysau ar gyfer Cymru a chodi ein proffil o amgylch y byd. Rydym eisoes wedi sicrhau cefnogaeth 3 pherson hynod o lwyddiannus sydd â chyrhaeddiad rhyngwladol ac a fydd yn cynnig cymorth yn y farchnad ar gyfer ein hamcanion allforio a mewnfuddsoddi. Byddan nhw hefyd yn chwarae rôl ehangach o ran codi ymwybyddiaeth o Gymru a hyrwyddo meysydd y mae Cymru’n rhagori ynddyn nhw.

Teitl swyddogol yr unigolion hyn fydd 'Cennad Llywodraeth Cymru'.

Dyma'r tri chennad:

  • Mae Koji Tokumasu yn byw yn Japan ac roedd yn un o Uwch-gyfarwyddwyr Pwyllgor Trefnu Cwpan Rygbi'r Byd 2019. Yn wir, roedd yn ddylanwadol iawn o ran sicrhau Japan fel lleoliad y gystadleuaeth. Ar hyn o bryd, mae'n athro gwadd ym Mhrifysgol Astudiaethau Rhyngwladol Kanda, yn Gyfarwyddwr Arbennig yn Undeb Rygbi Japan ac yn Llywydd ar Glwb Rygbi Rhyngwladol Shibuya. Mae ei gariad tuag at Gymru yn deillio o wylio tîm rygbi campus Cymru yn y 1970au pan oedden nhw ar daith o amgylch Japan. Ar ôl y daith hon, daeth Koji i fyw yng Nghymru am ddwy flynedd. Mae ganddo gysylltiadau helaeth â llywodraethau, busnesau a byd y campau yn Japan a ledled Asia.
  • Bu La-Chun Lindsay, o'r Unol Daleithiau, yn byw yng Nghymru tra'r oedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar GE Aviation yng Nghymru, y fenyw gyntaf i fod yn y swydd. Yn ddiweddar, mae La-Chun wedi ymgymryd â rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Seilwaith yn Amazon Web Services. Yn ogystal â'i gyrfa hynod o lwyddiannus, mae La-Chun hefyd yn ymgyrchydd brwd dros y gymuned LHDTC+. Tra'r oedd yng Nghymru, enwyd La-Chun yn rhif 4 yn Rhestr Binc 2016 Y Bobl LHDT Fwyaf Dylanwadol yng Nghymru a chafodd hefyd raddau anrhydeddus o Brifysgol De Cymru (2017), Prifysgol Caerdydd (2017) a Phrifysgol Abertawe (2018).
  • Cafodd Aled Miles, sydd hefyd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ei eni a'i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Symudodd i'r Unol Daleithiau yn 2006 i ymgymryd â swydd Prif Swyddog Gweithredol Cineflex Camera Systems LLC ac mae wedi gweithio mewn sawl sefydliad arall ar yr Arfordir Gorllewinol. Mae'n arbenigo mewn seiberddiogelwch ac ar hyn o bryd mae'n Llywydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar Sauce Labs. Mae Alex hefyd yn Gadeirydd Gweithredol ar IoTium; yn aelod o fwrdd Sapien; yn aelod o fwrdd Conservatoire Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; ac yn aelod o fwrdd ac yn gynghorydd yn Wildstar Films.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi pedwerydd cennad yn nes ymlaen yn yr hydref.

Bydd ein cenhadon newydd yn helpu i agor drysau a meithrin perthynas â gwledydd ar draws y byd.