Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau y mae’r costau byw cynyddol yn ei roi ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes o dan bwysau. Mae hyn yn cynnwys costau rhentu i denantiaid. Rydym wedi ymrwymo i helpu tenantiaid ac wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cartrefi digonol a bod y broses o gael gafael ar gartref rhentu preifat yn un deg. Un prif agwedd ar hyn yw fforddiadwyedd.

Heddiw, rwyf wedi lansio Ymgynghoriad Papur Gwyrdd - Cais am Dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol – gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd.

Nod yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd hwn yw cefnogi a datblygu un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru sef i “gyhoeddi Papur Gwyn ac ynddo gynigion ar hawl i gartref digonol, gyda golwg ar (a) sefydlu system rhenti teg (rheoli rhenti) yn y farchnad rhentu preifat fel y bo pobl leol ar incwm lleol yn gallu eu fforddio a (b) ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.”

Er bod enghreifftiau rhyngwladol a gwaith academaidd ynghylch y cysyniad o ddigonolrwydd tai a mesurau rhent teg, ni ellir eu trosglwyddo’n uniongyrchol i Gymru na’r sector tai yng Nghymru.

Mae’r Papur Gwyrdd yn gais am dystiolaeth fel y gallwn ddeall y farchnad rhentu yng Nghymru yn well, yn benodol o ran pa ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad landlordiaid wrth iddynt osod rhenti a derbyn tenantiaid. Hoffem hefyd ddeall yr hyn y mae tenantiaid yn ei ystyried sy’n eiddo fforddiadwy a digonol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros yr haf tan 15 Medi a bydd nifer o weithdai yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i rannu eu barn.

Mae cynyddu nifer y tai sydd ar gael yn hanfodol i fynd i’r afael â chodiadau rhent cynyddol. Dyna pam felly ein bod wedi ymrwymo i sicrhau 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel i’w rhentu dros y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i bob deiliadaeth weithio’n fwy cydlynol gyda’i gilydd yn y dyfodol ac felly rydyn ni’n awyddus i edrych ar sut y gellid darparu’r cyflenwad o eiddo rhentu preifat newydd a fforddiadwy.

Hoffwn ddiolch i aelodau’r panel rhanddeiliaid allanol sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu'r Papur Gwyrdd hwn. Edrychaf ymlaen at ymwneud eto â nhw yn nhymor yr Hydref pan fydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.