Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r papur tystiolaeth ar Gynaliadwyedd a Chyfranogiad mewn perthynas â’r maes Addysg Drydyddol. Mae’n nodi'r heriau a'r cyfleoedd allweddol sy'n wynebu'r sector yng Nghymru. Rwyf hefyd yn cyhoeddi galwad am gynigion gan randdeiliaid.
Mae'r papur yn nodi pum her fawr sy'n wynebu'r sector:
- Cyfranogiad a chyfle cyfartal – sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn gallu manteisio ar addysg bellach ac uwch a chyflawni eu potensial.
- Newid demograffig a dysgu gydol oes – ymateb i boblogaeth sy'n heneiddio a chefnogi dysgu gydol oes.
- Cystadleuaeth a chydweithio – cefnogi cydweithio cryf mewn partneriaeth ar draws y sector.
- Cynaliadwyedd ariannol – sicrhau bod sefydliadau yn gallu darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel ar sail ariannol ddiogel.
- Cyflawni ar gyfer cymunedau ac economi'r dyfodol – sicrhau bod addysg yn cydweddu ag anghenion cymunedau Cymru ac economi sy'n newid yn gyflym.
Rwy'n gwahodd rhanddeiliaid i ystyried yr heriau a amlinellir yn y papur ac ymateb i'r cwestiynau a ofynnir, fel y gallwn adeiladu sylfaen dystiolaeth drylwyr a chadarn ar y cyd ar gyfer polisïau'r dyfodol. Hoffem glywed gan ddarparwyr addysg drydyddol, partneriaid, dysgwyr a staff, yn ogystal â busnesau, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, melinau trafod, a phartïon eraill sy'n ymwneud â'r maes.
Mae'r alwad hon am gynigion yn cefnogi'r drafodaeth sydd eisoes yn cael ei chynnal â'r sector ar hyd a lled Cymru. I gefnogi'r broses hon, rwyf wedi cynnull Grŵp Cynghori'r Gweinidog, sy'n dod â chynrychiolwyr o bob rhan o sector addysg drydyddol Cymru ynghyd. A byddaf yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn uniongyrchol dros y misoedd nesaf.
Dyma ein cyfle i adeiladu ar ein cynnydd, i osod y sylfaen ar gyfer y bennod nesaf, ac i atgyfnerthu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr er mwyn cyflwyno rhaglen i ddiwygio polisïau.
Mae’r papur tystiolaeth a’r alwad am gynigion ar gael yma: Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru: 5 her a galwad am gyflwyniadau | LLYW.CYMRU
