Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mai 2019, dywedais wrth yr Aelodau fod gwaith wedi dechrau i greu gwasanaeth apeliadau cynllunio pwrpasol ar wahân i Gymru, i ymgymryd â swyddogaethau'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru.  Yr wyf yn awr yn falch iawn o adrodd y bydd y gwasanaeth newydd, a elwir yn Benderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru, yn cael ei lansio ar 01 Hydref. 

Mae staff a swyddogaethau Is-adran Arolygiaeth Gynllunio Cymru wedi trosglwyddo i Lywodraeth Cymru i gyflawni'r swyddogaeth hon, yn unol â Datganiad Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar drosglwyddo staff yn y sector cyhoeddus.  Mae hyn wedi sicrhau y bydd y gwasanaeth newydd yn gwbl weithredol o'r cychwyn cyntaf, ac wedi cadw'r arbenigedd sylweddol sydd ei angen i gyflawni ei ddyletswyddau. 

Bydd y gwasanaeth yn rhan o Lywodraeth Cymru a bydd trefniadau llywodraethu cadarn ar waith i sicrhau y bydd Arolygwyr yn parhau i weithredu'n ddiduedd ac yn wrthrychol. 

Erbyn hyn, mae gan Gymru ei gwasanaeth ymroddedig ei hun ar gyfer craffu ar Gynlluniau Datblygu drafft, a phenderfynu ar geisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, apeliadau cynllunio a gwaith achos amgylcheddol cysylltiedig.  Bydd hyn yn sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth yn ymateb i'r angen i weithredu'r fframwaith datganoledig yn effeithiol ar gyfer deddfwriaeth a pholisi ym maes cynllunio a'r amgylchedd.