Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Gwener 24 Tachwedd, lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fenter aml-flwyddyn newydd, sef prosiect ‘Dalgylch Arddangos Teifi’. Mae hwn yn brosiect cydweithio ar draws sectorau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella'r gwaith o reoli dŵr yn nalgylch Teifi. Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi lansiad y prosiect, wedi'i gynnull gan Gadeirydd CNC, Syr David Henshaw. Roedd partneriaid allweddol yn bresennol gan gynnwys Ymddiriedolaethau Afonydd, Dŵr Cymru, yr Undebau Ffermio a'r Awdurdodau Lleol.

Rwyf wedi dweud droeon, yn y Senedd a thu hwnt, fod gwella ansawdd dŵr yn fater cymhleth nad oes ateb hawdd iddo. Dim ond os yw'r llywodraeth, y rheoleiddwyr a'r holl sectorau perthnasol yng Nghymru yn ymgysylltu'n llawn ac yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad ac adnoddau y gallwn wireddu ein huchelgeisiau. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn argymell dull ‘Tîm Cymru’ o wella ansawdd dŵr. Rwy'n falch iawn y bydd prosiect Dalgylch Arddangos Teifi yn meithrin y dull cydweithredol hwn.

Mae afon Teifi yn un o naw dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru. Mae'n cefnogi pysgodfa eog a brithyll môr bwysig sydd o dan bwysau lluosog, gan gynnwys llygredd o fwyngloddiau metel segur ar dop y dalgylch i lygredd o asedau dŵr gwastraff a llygredd gwasgaredig o ddŵr ffo oddi ar dir. Mae hefyd yn gartref i bwyntiau tynnu dŵr yfed cyhoeddus o bwys strategol. ‌‌Rydym yn gwybod o ddata dosrannu ffynonellau a wiriwyd yn annibynnol bod prif ffynhonnell llwyth ffosfforws yn amrywio o ddalgylch i ddalgylch, ond mewn chwech o'r naw dalgylch ACA, y prif achos yw defnydd tir gwledig. Ar y llaw arall, prif gyfrannwr ffosfforws yn nalgylch afon Teifi yw gollyngiadau o asedau cwmni dŵr.

Mae gwaith sylweddol eisoes yn mynd rhagddo ledled dalgylch afon Teifi i wella ansawdd dŵr. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â meddwl yn wahanol a defnyddio atebion arloesol i wneud i bethau ddigwydd. Bydd yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud, gan ganolbwyntio ar sut y gallwn ychwanegu gwerth a dangos ychwaneged. Mae'r Prosiect Dalgylch Arddangos hwn yn cynnig cyfle cyffrous i bob parti roi cynnig ar ddull gweithredu gwahanol. Rwy'n gweld gwyddoniaeth dinasyddion yn rhan annatod o'r prosiect i ysgogi atebion a chyfrannu at waith rheoli dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am weld sut y gallwn wneud y defnydd gorau o'r holl ddata a thystiolaeth sydd ar gael. Rwyf hefyd yn awyddus i ystyried defnyddio pwerau arbrofol Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo hynny'n briodol.

Rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio'r gwaith yn nalgylch afon Teifi i ddatblygu model ‘arfer gorau’ y gellir ei ailadrodd ar draws dalgylchoedd Cymru gyfan.

Bydd prosiect Dalgylch Arddangos Teifi yn rhan o'r dull cyfannol ehangach rydym yn ei ddefnyddio i wella ansawdd dŵr. Rwy'n edrych ymlaen at gadeirio'r drydedd Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd ‌ddydd Iau hwn, 30 Tachwedd, lle byddwn yn parhau â'n deialog agored ar afon Teifi a'n Hafonydd ACA eraill, gyda'r holl sectorau allweddol o amgylch y bwrdd.