Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Rwy'n hynod falch o nodi lansiad ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Datblygwyd y strategaeth hon dros 18 mis o gydweithio'n agos â gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr. Mae ei saith maes blaenoriaeth yn adlewyrchu'r hyn y mae gofalwyr wedi'i ddweud wrthym sydd ei angen fwyaf arnynt.
Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn y sector gofal yn ein cymunedau ledled Cymru. Bob dydd, maent yn darparu gofal a chymorth hanfodol i berthnasau a ffrindiau, ac yn ceisio taro cydbwysedd rhwng dyletswyddau gofal a gwaith, addysg, bywyd teuluol a'u hiechyd a'u llesiant. Mae eu cyfraniad yn anhygoel, ac ni ddylem fyth ei gymryd yn ganiataol.
Mae gofalwyr di-dâl yn rhan greiddiol o'n huchelgais ar gyfer system gofal cymdeithasol gryfach. Rhaid i ofalwyr di-dâl gael y gydnabyddiaeth, y cymorth ymarferol a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Ni ddylai unrhyw un fod dan anfantais oherwydd y gofal y maent yn ei ddarparu. Mae cydnabyddiaeth yn golygu trin gofalwyr di-dâl fel partneriaid cyfartal. Mae'n golygu bod gofalwyr yn rhan greiddiol o'r gwaith o gynllunio gofal, triniaeth a phrosesau rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Rhaid blaenoriaethu eu llesiant a'u hawl i fywyd cytbwys ochr yn ochr ag anghenion y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Rhaid cynnal hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn llawn.
Er mwyn cyflawni'r uchelgais hon, bydd angen partneriaeth barhaus ar draws Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae gofalwyr di-dâl yn rhan o bob maes o fywyd cyhoeddus. Rydym yn sefydlu trefniadau gweithio gweinidogol i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hystyried ym mhob agwedd ar waith Llywodraeth Cymru. Mae hon yn strategaeth uchelgeisiol, ac mae llawer o waith i'w wneud. Rwy'n hyderus y gallwn gyflawni gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
