Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar y rheoliadau arfaethedig ar gyfer asesiadau o'r effaith ar iechyd.

Mae'r camau presennol a gymerir i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd wedi'u hymgorffori ym mhob gweithgarwch yn sgil y cynllunio strategol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ein dangosydd cenedlaethol – Disgwyliad Oes Iach adeg geni, gan gynnwys y bwlch rhwng y lleiaf a'r mwyaf difreintiedig – yn rhoi ysgogiad ychwanegol i ganolbwyntio ar y pethau eraill y gallwn eu gwneud i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn mewn canlyniadau. Serch hynny, mae'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â disgwyliad oes yn parhau i fod yn helaeth.

Cafodd y garreg filltir ganlynol ei gosod mewn perthynas â disgwyliad oes iach er mwyn helpu i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyflawni'r nodau llesiant:'Cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050.'

Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn adnodd i helpu pobl i asesu'r effeithiau posibl y gallai polisi, rhaglen, neu brosiect eu cael ar iechyd poblogaeth, yn enwedig ar grwpiau sy'n agored i niwed neu o dan anfantais.

Er bod y gwaith hwn wedi gweld oedi oherwydd Brexit a'r ymateb i Covid-19, bellach mae wedi ailddechrau drwy ddatblygu Rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a fydd yn rhoi gofyniad ar gyrff cyhoeddus penodedig i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd mewn rhai amgylchiadau. Yn hyn o beth, Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i osod Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd ar sail statudol.

Mae'r ymgynghoriad ar reoliadau asesiadau o'r effaith ar iechyd yn cynnwys copi o'r Rheoliadau drafft i'w hystyried, ynghyd ag eglurhad o'r syniadau y tu ôl i'r Rheoliadau. 

Mae'r ymgynghoriad wedi'i lunio mewn modd sy'n rhoi sylw i'r pwyntiau canlynol: dyma'r hyn yr ydym am ei ystyried; i bwy y bydd y rheoliadau yn berthnasol; pryd y bydd y rheoliadau yn weithredol; sut y dylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd; cyhoeddi Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd; a rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae nifer o gwestiynau ymgynghori hefyd wedi'u cynnwys er mwyn cael ymatebion gan randdeiliaid.

Bydd fy swyddogion yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i drafod y cynigion, ac i sicrhau bod ein dealltwriaeth yn drylwyr a'n bod yn cael adborth manwl. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.