Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf falch o gyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru.

Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn broblemau sy’n tyfu, nid yn unig yma yng Nghymru ond drwy’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i hynny. Ac mae mwy ohonom yn deall erbyn hyn y gallant effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, ac am amryw o wahanol resymau. Maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl.

Rydyn ni fel llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau’r iechyd, y llesiant a’r ansawdd bywyd gorau i holl bobl Cymru. Rhaid inni roi blaenoriaeth i  atal pobl rhag mynd yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol, oherwydd bydd hynny nid yn unig yn gwella bywydau pobl - bydd hefyd yn helpu i leihau’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol.

Felly, roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth genedlaethol, drawslywodraethol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Y ddogfen ymgynghori hon yw’r cam cyntaf yn y gwaith o gyflawni’r ymrwymiad hwn. Mae’n nodi ein gweledigaeth o’r Gymru yr ydym am ei gweld, a hynny wedi’i gysylltu â fframweithiau deddfwriaethol a strategol Llywodraeth Cymru; mae’n cyfeirio at yr hyn yr ydym yn ei wybod drwy dystiolaeth, a’r hyn a glywsom drwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid hyd yma; mae’n sôn am rywfaint o’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac yn awgrymu dull gweithredu ar gyfer y dyfodol.

Mae’n amlwg i mi na all Llywodraeth Cymru nac un asiantaeth ar ei phen ei hun fynd i’r afael â’r materion hyn. Yr unig ffordd o ymdrin ag effeithiau eang a dwfn unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yw dod â’r holl asiantaethau ynghyd i edrych ar yr achosion ac ar yr effeithiau niweidiol ehangach i’r unigolion ac i gymunedau. Fel llywodraeth, mae angen inni feithrin yr amgylchedd cywir a chreu’r amodau addas i eraill allu cynllunio a darparu atebion sy’n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.

Hoffwn glywed gan bobl o bob rhan o Gymru, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech hyrwyddo’r ymgynghoriad hwn yn y cymunedau yr ydych yn eu gwasanaethu. Rwy’n gwybod eich bod chi mor awyddus â finnau i wneud yn siŵr bod ein cymunedau, a’r gwead cymdeithasol sy’n eu clymu ynghyd, mor wydn ag y gallant fod.

Mae’r ymgynghoriad i’w weld yn: https://beta.llyw.cymru/cymunedau-cysylltiedig-mynd-ir-afael-ag-unigrwydd-ac-ynysigrwydd-cymdeithasol a bydd yn dod i ben ar 15 Ionawr 2019.