Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant. Rydym yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth: 

  • Dod â phobl ynghyd drwy ddiwylliant 
  • Hyrwyddo Cymru fel cenedl diwylliant 
  • Sicrhau bod y sector diwylliant yn wydn ac yn gynaliadwy.

Cefnogir y blaenoriaethau hyn gan ugain uchelgais arall.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu at ein tapestri diwylliannol cyfoethog. Mae'r strategaeth ddrafft hefyd yn berthnasol ar draws Llywodraeth Cymru ac i'r holl sefydliadau sector cyhoeddus eraill sy'n cyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o Gymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Wrth lansio'r broses ymgynghori, rwy'n cydnabod yr her ariannol anodd y mae'r sector diwylliant yng Nghymru yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Credaf ei bod yn bwysicach nag erioed i'r Llywodraeth amlinellu cyfeiriad strategol i gefnogi'r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau ar draws y sector diwylliant. Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cyhoeddi fersiwn derfynol y Blaenoriaethau ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i adolygu'r Blaenoriaethau ar ôl eu cyhoeddi. 

Bydd yr Aelodau'n cofio bod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhyddhau datganiad ysgrifenedig ym mis Mawrth yn amlinellu'r camau nesaf. Rwyf wedi penderfynu i ymestyn y cyfnod ymgynghori. Bydd nawr yn rhedeg am 15 wythnos, gan ddod i ben ar 4 Medi 2024, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ymateb.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod Dynodedig am ei chyfraniad a'i chefnogaeth drwy gydol y cyfnod o ddatblygu'r Blaenoriaethau. Roeddwn i’n falch iawn o dreulio amser gyda chwmni theatr Hijinx yr wythnos hon fel rhan o lansio'r ymgynghoriad. Mae'r uchelgais cyntaf yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn canolbwyntio ar hygyrchedd, cynwysoldeb ac amrywiaeth, ac ar chwalu'r rhwystrau i gyfranogiad diwylliannol – mae gwaith Hijinx yn y maes hwn yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn arddangos pŵer diwylliant i gefnogi cyfiawnder cymdeithasol i bawb yng Nghymru.  

Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn diwylliant yng Nghymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn helpu i lunio'r ddogfen derfynol ar y Blaenoriaethau.