Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae'n bleser gennyf lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddeddfwriaeth ddrafft i alluogi Cyngor y Gweithlu Addysg i osod Gorchymyn Atal Dros Dro Interim (ISO) lle mae'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol er budd y cyhoedd. Credaf fod y ddeddfwriaeth hon yn hanfodol i gryfhau'r mesurau diogelu sydd yn eu lle i ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru.

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gall Cyngor y Gweithlu Addysg ond ddileu person o'u cofrestr pan fydd ymchwiliad a phroses ddisgyblu wedi'u cwblhau. Golyga hyn fod person yn aros ar y gofrestr hyd yn oed os ydynt yn destun ymchwiliad gan yr heddlu am honiadau difrifol a chredadwy yn ymwneud â risg o niwed i blant a phobl ifanc. Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn ceisio rhoi'r pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg allu atal cofrestriad person dros dro hyd nes y cynhelir ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu, yn yr achosion mwyaf difrifol.  Golyga hyn y byddai gan y cyhoedd sicrwydd nad yw unrhyw un o'r gweithiwr proffesiynol sydd ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg yn destun ymchwiliad am bryderon diogelwch difrifol.

Mae'r Gorchymyn drafft yn gweithredu argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a argymhellodd yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon y dylai Cyngor y Gweithlu Addysg gael pwerau deddfwriaethol i osod Gorchymyn Atal Dros Dro Interim. Byddai hefyd yn sicrhau bod pwerau Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyson â phwerau rheoleiddwyr tebyg eraill yn Lloegr a'r Alban, a'r trefniadau rheoleiddio ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill yng Nghymru, er enghraifft y rheini sydd wedi'u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn adeiladu ar ymgynghoriad Cyngor y Gweithlu Addysg a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2018. Mae'n canolbwyntio ar y rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru'n meddwl bod y pwerau hyn yn angenrheidiol, yn amlinellu'n fanwl sut y byddai'r pwerau'n gweithio'n ymarferol, ac yn gofyn am sylwadau ar y Gorchymyn drafft. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gyngor y Gweithlu Addysg am eu hadborth yn ystod y broses o ddatblygu'r Gorchymyn drafft. Rwyf nawr yn croesawu ac yn edrych ymlaen at glywed sylwadau rhanddeiliaid ehangach ar y Gorchymyn drafft hwn er mwyn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gweithio'n ymarferol. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 4 Rhagfyr 2020.

https://llyw.cymru/cyngor-y-gweithlu-addysg-gorchmynion-atal-dros-dro-interim

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.