Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar y ddyletswydd ansawdd – sef un o bedair rhan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Y bwriad yw dod â'r ddyletswydd i rym ar 1 Ebrill 2023.

Ein nod fydd cychwyn y Ddyletswydd Ansawdd gryfach ar Weinidogion Cymru (o ran eu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd) a chyrff y GIG (Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig) yng Nghymru.

Yn y pen draw, pwrpas y ddyletswydd ansawdd yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru a chyrff y GIG yn sicrhau gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu.  Mae'r ddyletswydd yn sail i’n huchelgais o gyrraedd safonau uwch byth o wasanaethau iechyd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru. Mae ansawdd yn fwy na dim ond bodloni safonau gwasanaeth.  Mae angen iddo fod yn ffordd o weithio ledled y system. Mae ansawdd yn golygu gofal iechyd diogel, amserol, effeithiol, effeithlon, teg a pherson-ganolog sy'n rhan annatod o ddiwylliant o ddysgu a gwella parhaus.

Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y GIG fynd ati i ystyried y meysydd ansawdd hyn wrth wneud penderfyniadau am wasanaethau iechyd, fel bod gwell canlyniadau'n cael eu sicrhau.  Mae hyn yn cefnogi'r pum ffordd o weithio (hirdymor, integreiddio, cynnwys, cydweithio ac atal) yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol[1] (Cymru) 2015 yn ogystal â hyrwyddo’r nod llesiant yn Cymru Iachach[2].

Byddwn i’n croesawu barn pobl a sefydliadau am y canllawiau ar y ddyletswydd ansawdd, sy'n ymgorffori safonau Ansawdd newydd 2023 gan ddisodli'r Safonau Iechyd a Gofal a gyhoeddwyd yn 2015.

Drwy gyfrwng yr ymgynghoriad hwn, rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu â phawb sydd â diddordeb mewn hyrwyddo diwylliant o onestrwydd a thryloywder yn y GIG. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 13 Ionawr 2023.  Mae'r ddolen i’r ymgynghoriad ar gael yma: https://llyw.cymru/dyletswydd-ansawdd

[1] Llywodraeth Cymru (2015) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/

[2] Llywodraeth Cymru (2019) Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-09/cymru-iachach-ein-cynllun-iechyd-a-gofal-cymdeithasol.pdf