Dawn Bowden, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Wythnos yma, rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y diwygiadau arfaethedig i ddau God Ymarfer allweddol a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:
- Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)
- Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig
Mae’r diwygiadau hyn yn dilyn cyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori helaeth a gynhaliwyd yn 2025. Ceisiwyd barn ar gryfhau is-ddeddfwriaeth a chanllawiau sy’n ymwneud â rhianta corfforaethol, llais y plentyn, llwybrau mabwysiadu, trefniadau maethu a gofal gan berthynas a chymorth gwarcheidiaeth arbennig. Mae’r Codau drafft wedi’u diweddaru yn adlewyrchu’r safbwyntiau polisi yr ymgynghorwyd arnynt cyn hyn, ac maent yn ymgorffori’r adborth a dderbyniwyd, ac yn cyflwyno nifer o fân ddiwygiadau i wella eglurder a chysondeb, ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a yw’r geiriad diwygiedig yn darparu canllawiau clir, ymarferol i ymarferwyr ac awdurdodau lleol, ac a fydd y newidiadau arfaethedig yn cefnogi arferion mwy cyson ac effeithiol ledled Cymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 7 Ebrill.
Rwy’n annog rhanddeiliaid, ymarferwyr, awdurdodau lleol a phawb sydd â buddiant mewn cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i rannu eu barn. Bydd eu cyfraniadau yn sicrhau bod y Codau Ymarfer terfynol yn gadarn ac yn glir a’u bod yn wirioneddol gefnogi arferion o ansawdd uchel ar draws ein system gofal cymdeithasol.
Fel rhan o’r rhaglen ehangach hon o welliannau, hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffaith bod Rheoliadau diwygiedig i wella gwasanaethau mabwysiadu, maethu a gofal gan berthynas yng Nghymru bellach wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan bwysig o’n gwaith parhaus i gryfhau’r systemau sy’n cefnogi mabwysiadu, maethu a threfniadau gofal gan berthynas yng Nghymru. Maent yn cynnwys:
- Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026
- Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu) (Cymru) 2026
- Rheoliadau Paneli Maethu a Chynllunio Gofal (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026
- Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2026
Gyda’i gilydd, mae’r newidiadau rheoleiddiol hyn a’r diwygiadau arfaethedig i’r Codau Ymarfer yn gam pwysig tuag at system gofal a chymorth effeithiol sy’n fwy cydlynol, ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn yng Nghymru. Rwyf i’n bersonol wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau.
