Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i’r Polisi Llwybrau Dysgu 14-19.  Mae hyn yn dilyn fy natganiad ar 8 Hydref, pan gyhoeddais fod adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol wedi’i gwblhau ar gyd-ddarparu'n lleol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ymateb Llywodraeth Cymru i'w argymhellion.

Croesewais yr argymhellion hynny gan ymrwymo i gynnal ymgynghoriad yn fuan ar y newidiadau deddfwriaethol ac ariannol a’r newidiadau o ran y cynlluniau busnes 14-19 a chyflenwi a gaiff eu cyflwyno yn sgil y prif argymhelliad ar gyfer lleihau nifer lleiafswm y cyrsiau y mae cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 yn eu cynnig o 30 o gyrsiau i 25 (y mae'n rhaid i 3 ohonynt fod yn gyrsiau galwedigaethol).

Gan fod y prif gynigion ar gyfer newid wedi deillio o adolygiad allanol yr oedd grwpiau perthnasol o randdeiliaid yn rhan ohono eisoes, bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am gyfnod byrrach o bedair wythnos.  Rwyf hefyd yn ymwybodol bod angen gwneud penderfyniad o ran y nifer lleiaf o gyrsiau y gellir eu cynnig yn y cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4 cyn gynted â phosibl yn ystod tymor y gwanwyn er mwyn sicrhau nad yw'n amharu’n ormodol ar gynllunwyr y cwricwlwm lleol na dysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.