Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod wedi darparu Datganiad Ysgrifenedig ym mis Hydref 2021 yn dilyn yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Yn unol â’n Rhaglen Lywodraethu, ymrwymais i gyflwyno Fframwaith Cenedlaethol strategol ar gyfer gofal a chymorth a Swyddfa Genedlaethol i oruchwylio gweithrediad y Fframwaith hwnnw. Ymrwymais hefyd i gryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ôl trafod a chydweithio’n helaeth â rhanddeiliaid yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym nawr wedi datblygu cynigion manwl ar gyfer y ddau faes hyn ac yn cynnal ymgynghoriad arnynt.

Ynghyd â’n cynigion drafft ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth a Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth, mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys:

  • Cynigion ar Fframwaith Tâl a Dilyniant drafft ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a ddatblygwyd gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.
  • Newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 2 a Chanllawiau Statudol Rhan 9 ynglŷn â sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gryfhau trefniadau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi a chryfhau’r cydweithio rhwng awdurdodau lleol a’r GIG.
  • Newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 8 ar rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdod lleol a’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol cysylltiedig.

Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau y gall ein gwasanaethau gefnogi llesiant pobl yn y blynyddoedd nesaf.

Un rhan o’n gwaith ehangach i gryfhau gofal cymdeithasol yw’r ymgynghoriad hwn. Mae sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth a Fframwaith Cenedlaethol strategol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yn gamau pwysig tuag at ein nod yn y pen draw sef creu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru sy’n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Mae hyn yn un o ymrwymiadau allweddol y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Y llynedd, cafodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru a minnau adroddiad terfynol gan Grŵp Arbenigol a sefydlwyd i lunio argymhellion ynglŷn â chamau ymarferol tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun Gweithredu cychwynnol ynglŷn â’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y cam cyntaf i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn a sut y byddwn yn mynd ati i holi barn a chydweithio am ystod o faterion a godwyd gan y Grŵp Arbenigol.