Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw yn Aberystwyth, rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/Cymru 2014-2020 ddrafft. Bydd busnesau, pobl a chymunedau ar ddwy ochr Môr Iwerddon yn gallu elwa ar y rhaglen hon, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae'r rhaglen hon yn werth €90 miliwn (tua £75 miliwn), sydd dipyn yn fwy na rhaglen 2007-2013, a oedd yn werth €70 miliwn. Bydd rhaglen 2014-2020 yn annog rhanddeiliaid o’r naill wlad a’r llall i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu prosiectau arloesol. Nod y prosiectau hyn fydd mynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin sy’n ymwneud ag arloesedd, newid hinsawdd, defnyddio adnoddau naturiol a diwylliannol, a threftadaeth.

O ran rheoli rhaglen 2014-2020, bydd Cymru (drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) yn cymryd yr awenau, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Iwerddon. Bydd yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnodd rhaglen 2007-2013 (a reolwyd gan Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon), a roddodd €49.5 miliwn (tua £41 miliwn) o gymorth ariannol i 41 o brosiectau cydweithredol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Cymru ac Iwerddon wedi bod yn meithrin cysylltiadau eang ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn gam pwysig arall sy’n ategu’r gwaith hwn.  
Rwy'n croesawu ac yn edrych ymlaen at glywed eich barn ar y ddogfen ymgynghori, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 31 Gorffennaf. Bydd yr ymatebion a fydd yn dod i law yn helpu i lywio Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/Cymru, a gaiff ei chyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd erbyn 20 Medi 2014, i’w thrafod a'i chymeradwyo'n ffurfiol.