Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio.

Mae’r strategaeth yn egluro ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda. Rydym am greu Cymru lle mae pob un yn edrych ymlaen at dyfu’n hŷn.

Cymru lle y gall unigolion gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, a bod yn hyderus hefyd y bydd cymorth ar gael iddynt yn hawdd os bydd ei angen, yw ein gweledigaeth.

Rydym yn awyddus i weld Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y bydd pobl hŷn yn ei dderbyn.

Yn y pen draw, rydym am fod yn genedl sy’n rhoi bri ar oedran ac, yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, rydym am gefnogi annibyniaeth, cyfranogiad, gofal a hunanfoddhad pobl hŷn bob amser a chynnal eu hurddas.  

Bwriadwyd lansio’r ymgynghoriad hwn ym mis Mawrth 2020 yn wreiddiol – yr union adeg pan oedd effaith bellgyrhaeddol COVID-19 ar unigolion a chymunedau ym mhob cwr o Gymru yn dod yn glir. Fodd bynnag, mae creu Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy’n amddiffyn hawliau pobl yn ogystal â hybu ymdeimlad o undod sy’n pontio rhwng y cenedlaethau yn bwysicach heddiw nag erioed. O ganlyniad, rydym wedi diweddaru rhannau o’r ddogfen hon i adlewyrchu newidiadau i bolisi fel ymateb i COVID-19, ond nid yw elfennau craidd ein strategaeth a luniwyd ar y cyd na’i gweledigaeth wedi newid. 

Mae ein gweledigaeth genedlaethol ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn yn cwmpasu lle mae pobl yn gweithio, eu hawliau, a’u perthynas ag aelodau o’u teulu a’u cymuned leol eu hunain ynghyd â’r llywodraeth. Mae hefyd yn cwmpasu’r berthynas sydd gennym ar draws y cenedlaethau a’r nod yw ceisio newid y ffordd rydym yn meddwl am dyfu’n hŷn.

Drwy greu cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cenedlaethau gallwn osod sylfeini ar gyfer cymdeithas sy’n gallu byw, gweithio a chwarae gyda’i gilydd. Rydym yn unigolion bob un ohonom sydd â gwahanol sgiliau, profiadau a nodweddion personol hefyd wrth reswm. Ond, gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau ffyniannus, cydlynol sy’n caniatáu i bob un gyrraedd ei botensial, i ddysgu ac i heneiddio’n dda ac, yn bwysicach oll, i fwynhau bywyd. Gall undod sy’n pontio’r cenedlaethau osod y sylfeini ar gyfer parch rhwng y cenedlaethau â’i gilydd. Rydym yn byw yn hirach ond, os na ddechreuir herio delweddau negyddol ynghylch heneiddio o oed ifanc iawn, gallem ddod yn genedl sy’n ofni tyfu’n hŷn yn hytrach nag un sy’n croesawu henaint, a’r cyfleoedd newydd a ddaw, â breichiau agored.

Rwy’n falch bod y strategaeth hon yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’n sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael lle canolog gan Lywodraeth Cymru wrth lunio polisi. Cafodd y ddogfen hon ei datblygu ar sail Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a bydd yr egwyddorion hynny hefyd yn llywio’r gwaith o weithredu’r Strategaeth. Drwy ymwrthod ag ymagweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oed, ein nod yw creu cymdeithas sy’n galluogi pobl o bob oed i gyrraedd eu potensial beth bynnag yw eu cefndir a’u hamgylchiadau.

Er mwyn helpu i weithredu dull sy’n seiliedig ar hawliau, rydym wedi gweithio gyda phobl hŷn a gweithwyr proffesiynol i lunio canllawiau ymarferol drafft sy’n dangos sut y gall awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, fel sy’n ofynnol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae sylw dyledus yn golygu mwy na dangos ymwybyddiaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn unig. Mae’n golygu bod rhaid i awdurdodau lleol ystyried o ddifri sut y mae’r dyletswyddau yn effeithio ar y penderfyniadau a wneir ganddynt.

Mae’r canllawiau hyn yn dangos sut y gall newidiadau syml i’r ffordd rydym yn gweithio amddiffyn hawliau dynol unigolion a chael effaith fawr ar eu llesiant. Rydym hefyd wedi llunio fersiwn o’r canllawiau hyn ar gyfer pobl hŷn. Rwy’n gobeithio y bydd y dogfennau hyn yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd i lywio sgyrsiau a helpu pobl i feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r effaith drawsnewidiol y gall dull sy’n seiliedig ar hawliau ei chael.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o dri mis ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyhoeddi cynllun gweithredu a fydd yn ganllaw ar gyfer rhoi’r Strategaeth ar waith wrth inni weithio gyda’n gilydd i ailadeiladu ein cymunedau a’n perthynas ag eraill ar ôl y pandemig.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho yma.