Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan ddeddfwriaeth draddodiad cryf o ran cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd. Heddiw rwy'n dechrau ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd, sy'n ceisio parhau â'r traddodiad hwn. Mae hyn yn adeiladu ar y drafodaeth helaeth a phwysig a ddechreuwyd yn sgil ein Papur Gwyrdd Iechyd y Cyhoedd ddiwedd 2012.

Roedd yn galonogol i mi bod yr ymatebion i'r Papur Gwyrdd yn dangos awydd clir i ni ymchwilio i gyfleoedd deddfwriaethol pellach ar gyfer gwella a diogelu iechyd. Roedd dwy brif thema i'r ymatebion: un yn ffafrio dull cyffredinol o weithredu sy'n cyfarwyddo sefydliadau i fynd i'r afael ag ystyriaethau iechyd ar draws eu swyddogaethau, a'r llall yn canolbwyntio ar greu ddeddfwriaeth sy'n cymryd camau ymarferol ynghylch pryderon penodol am iechyd y cyhoedd. Rydym wedi ceisio ymateb i'r ddwy agwedd hon mewn ffyrdd gwahanol.

Yn gyntaf, bydd Bil Cenedlaethau'r Dyfodol [teitl dros dro], sydd i'w gyhoeddi cyn hir, yn rhoi iechyd da yn ganolog i'r Gymru rydym am ei chreu at y dyfodol. Mae hyn yn cydnabod bod llawer o'r gwaith y mae angen ei wneud i wireddu'n dyheadau ar gyfer iechyd da a lleihau anghydraddoldebau yn dibynnu ar weithredu ar y cyd ar amryw ffactorau cymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd a lles. Bil Cenedlaethau'r Dyfodol fydd yn cynnig fframwaith deddfwriaethol cyffredinol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus i helpu i roi ystyriaeth i iechyd ym mhob polisi. Mae Biliau eraill y Cynulliad yn y rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig drwy gymryd camau i fynd i'r afael â phenderfynyddion penodol ym maes iechyd a materion eraill sy'n cefnogi iechyd gwell.

Yn y Papur Gwyn hwn, rydym yn canolbwyntio ar gyfres o gamau i atal problemau, gan ystyried a allem eu trosglwyddo i Fil Iechyd y Cyhoedd er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r elfennau sy'n achosi iechyd gwael ond y gellid eu hosgoi. Mae'r camau hyn i gyd yn cyd-fynd â'r cyfrifoldeb sydd ar Lywodraeth i greu amodau sy'n osgoi niwed i iechyd, a lle gall unigolion ddiogelu a hybu i'r eithaf eu lles eu hunain a lles eu cymunedau. Mae'r ffocws hwn ar gamau sy'n atal problemau yn cefnogi egwyddorion gofal iechyd darbodus drwy geisio ymyrryd ar yr adegau lle mae'r potensial mwyaf o fanteision hirdymor, a hynny o safbwynt iechyd a lles unigolion ac o safbwynt lleihau'r beichiau cymdeithasol ac ariannol hirdymor sy'n cael eu hachosi gan iechyd gwael y gellir ei osgoi.

Mae'r Papur Gwyn yn tynnu ynghyd gynigion ar gyfer deddfwriaeth mewn nifer o feysydd cysylltiedig. Fel cyfres o gamau, eu nod gyda'i gilydd yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles. Cyflwynir y cynigion o dan dair thema gyffredinol, sy'n adlewyrchu'n hymrwymiad i wella iechyd gydol oes, datblygu asedau cymunedol i greu cymunedau iach, a defnyddio rheoleiddio i ategu gweithgareddau penodol sy'n bwysig i'r cyhoedd. Ceir crynodeb ohonynt isod:

Thema: Gwella iechyd gydol oes   

Y Cynigion:

  • Cofrestr genedlaethol manwerthwyr tybaco
  • Cyfyngu ar y defnydd o sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig
  • Mannau agored di-fwg a rheoliadau newydd ar gyfer gwerthiant tybaco dros y we
  • Cyflwyno Isafswm Pris fesul Uned ar gyfer alcohol
  • Safonau maeth mewn lleoliadau penodedig (drwy is-ddeddfwriaeth a/neu ganllawiau)

Thema: Datblygu asedau cymunedol ar gyfer iechyd  

Y Cynigion:

  • Cryfhau rôl Byrddau Iechyd o ran cynllunio gwasanaethau fferyllol lleol
  • Gwella mynediad at doiledau i'r cyhoedd

Thema: Rheoleiddio er budd iechyd    

Y Cynigion:

  • Cofrestr Genedlaethol ar gyfer Triniaethau Arbennig

Mae'r cynigion yn uchelgeisiol ac yn ceisio cymryd camau strategol i wella a diogelu iechyd. Gyda'i gilydd, a law yn llaw â'r gwaith cyffredinol sy'n digwydd drwy Fil Cenedlaethau'r Dyfodol, eu nod yw rhoi Cymru ar flaen y gad o ran llunio polisïau blaengar ym maes iechyd y cyhoedd.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 24 Mehefin 2014. Byddaf yn croesawu trafodaeth ac ymatebion gan ystod mor eang â phosibl o bobl, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried y canlyniadau yn yr haf.

Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y gwaith hwn.