Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yfory (23 Tachwedd) yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, byddaf yn lansio dau ymgynghoriad sy’n ymwneud â diwygio rheoleiddio a fydd yn cyfrannu’n sylweddol at y camau rydyn ni’n eu cymryd ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Mae’r ymgyngoriadau’n nodi manylion y gofynion a fwriedir ar gyfer pob eiddo annomestig – gan gwmpasu busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector – o ran gwahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu, a hynny yn yr un modd â’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y mwyafrif o gartrefi yng Nghymru. O ganlyniad, bydd ansawdd a meintiau’r hyn a ailgylchir yn gwella ynghyd â chysondeb y ffordd rydyn ni’n casglu deunyddiau ailgylchadwy ledled Cymru, gan gyflawni yn erbyn ein hymrwymiad yn Mwy nag Ailgylchu a Cymru Sero Net i ddwyn y diwygiadau hyn ymlaen er mwy sicrhau arbedion carbon sylweddol a buddion cadarnhaol ar gyfer yr economi. 

Yn dilyn ymlaen o’r ddau ymgynghoriad blaenorol ar y cynigion polisi hyn, a gynhaliwyd yn 2013/14 a 2019, mae’r ymgyngoriadau hyn yn ceisio barn ar y cod ymarfer drafft sy’n nodi’r gofynion manwl ar gyfer gwahanu deunyddiau; y broses fesul cam arfaethedig ar gyfer cyflwyno gofynion ar gyfer ffrydiau gwastraff penodol yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid (ar gael yma: llyw.cymru/casglu-deunyddiau-gwastraff-ar-wahan-ar-gyfer-ailgylchu-cod-ymarfer-cymru); a’r dull gorfodi arfaethedig (ar gael yma: llyw.cymru/cynigion-ar-gyfer-gorfodi-rheoliadau-ailgylchu-busnesau-y-sector-cyhoeddus-ar-trydydd-sector-yng). Bydd yr ymgyngoriadau ar agor am 12 wythnos ac yn cau ar 15 Chwefror 2023, a bydd ymatebion yn llywio’r gwaith o lunio drafft terfynol o’r cod ymarfer a’r Rheoliadau arfaethedig. Bwriedir i’r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Hydref 2023.

Mae’r diwygiadau sy’n destun yr ymgyngoriadau nid yn unig yn allweddol o safbwynt sicrhau gwelliant ym maint ac ansawdd yr hyn a ailgylchir o eiddo annomestig, ond maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o’r gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau yng Nghymru i gyrraedd sefyllfa ddiwastraff ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Byddan nhw hefyd yn ein helpu ni i leihau llygredd yn yr amgylchedd a’r effaith rydyn ni’n ei chael y tu allan i Gymru o ganlyniad i’r deunyddiau crai a echdynnir ar gyfer creu’r nwyddau rydyn ni’n eu defnyddio. 

Ochr yn ochr â’r hanfodion amgylcheddol, daw cyfleoedd economaidd sylweddol yn sgil ein cynnydd tuag at greu economi fwy cylchol lle mae adnoddau’n cael eu defnyddio cyhyd ag y bo’n bosibl. Gyda’r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar gostau deunyddiau, mae cadw gafael ar ddeunyddiau o safon a all fynd yn ôl i mewn i economi Cymru yn ffordd allweddol o wella gwytnwch ein cadwyni cyflenwi. Yn ogystal, mae’r diwygiadau hyn yn dwyn buddion drwy greu darbodion, er enghraifft drwy sicrhau costau uwch ar gyfer deunyddiau o safon a gesglir, wrth greu cyfleoedd i gael gwerth economaidd ychwanegol llawer mwy yng Nghymru a chreu swyddi ychwanegol yn yr economi gylchol. Yng Nghymru, mae hefyd yn faes lle mae gennym gyfle anferth i adeiladu ar lwyddiant ein diwydiant ailgylchu gwastraff cartrefi, sydd gyda’r gorau yn y byd.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn yn y diwydiant ailgylchu gwastraff cartrefi, ac mae hynny wedi trawsnewid Cymru o fod yn genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5% o’i gwastraff trefol i fwy na 65% yn 2021–22, ac mae eisoes yn cyfrannu arbedion o tua 400,000 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn. Bydd y diwygiadau hyn i wella ailgylchu o fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn sicrhau ein bod yn cymryd y cam nesaf ar hyd ein taith fel cenedl sy’n ailgylchu. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gymryd camau yn y maes hwn er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau i ymwreiddio ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud y cynnydd gorau posibl tuag at ddatgarboneiddio, gan greu Cymru werdd a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Atodiad