Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn cael ei lansio’n swyddogol yng Nghymru heddiw. Prif ddiben y Gronfa hon yw helpu’r diwydiant i addasu i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ar ei newydd wedd a hybu twf cynaliadwy ein pysgodfeydd a’n diwydiannau dyframaethu. Bydd hyn yn ysgogi twf o fewn ein cymunedau arfordirol.    

Mae’r blaenoriaethau yng Nghymru yn cynnwys;

  • Hwyluso camau gweithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sy’n cynnwys y rhwymedigaeth i ddod â phob pysgodyn i’r lan
  • Manteisio i’r eithaf ar y posibiliadau sydd ynghlwm wrth ddyframaethu, a hynny’n unol â’n targedau i ddyblu’r cynhyrchu erbyn 2020
  • Gwneud cychod pysgota’n fwy diogel
  • Annog partneriaethau rhwng pysgotwyr a sefydliadau gwyddonol
  • Datblygiadau lleol a gaiff eu harwain gan gymuneda
  • Sicrhau rhagor o werth ychwanegol ar gyfer pysgod o Gymru
  • Annog y defnydd o dechnoleg gwybodaeth o fewn y diwydiant.

Cronfa dwf fydd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yng Nghymru a bydd yn seiliedig ar gyfres o ymyriadau strategol gydol cyfnod y rhaglen. Byddwn yn sefydlu grŵp o gynrychiolwyr o fewn y diwydiant er mwyn helpu i lywio’r blaenoriaethau penodol ar gyfer datblygu’r diwydiant yng Nghymru. Bydd y dull strategol hwn yn ein galluogi i neilltuo’r cyllid i’r meysydd pwysicaf yng Nghymru.  
Pysgota yw un o alwedigaethau mwyaf peryglus y DU o hyd. O’r herwydd, nod y cynllun cyntaf a fydd yn agor o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yng Nghymru fydd gwella iechyd a diogelwch cychod pysgota. Caiff y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi o dan y cynllun hwn eu datblygu yn ystod yr wythnosau nesaf, a hynny mewn partneriaeth â chymdeithasau pysgota Cymru. Caiff y rhain eu cyhoeddi’n fuan wedyn.