Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014.  Y Ddeddf yw sylfaen fframwaith statudol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r rheoliadau, y codau ymarfer a’r canllawiau statudol wedi cael eu datblygu mewn dwy gyfres, a hynny trwy broses ymgynghori â rhanddeliaid allweddol. Trefnwyd bod y gyfres gyntaf o reoliadau, ynghyd â’r codau ymarfer a’r canllawiau statudol cysylltiedig ar gael ar gyfer cyfnod o 12 - wythnos at ddibenion ymgynghori â’r cyhoedd ar 6 Tachwedd 2014. Roeddwn yn falch iawn o gael dros 300 o atebion ysgrifenedig sylweddol i’r ymgynghoriadau hyn. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan, gydag ymatebwyr yn mynegi cefnogaeth i egwyddorion a manylion y rheoliadau drafft, y codau ymarfer a’r canllawiau statudol. Mae’r ymatebion hyn wedi rhoi llawer o dystiolaeth werthfawr inni ac rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth hon i wneud newidiadau, gan ddatblygu a mireinio ein rheoliadau, ein codau ymarfer a’n canllawiau statudol ymhellach.

Y rheoliadau cymhwyster fydd y cyntaf o dan y Ddeddf i gael eu gosod ar 8 Mai a byddant yn darparu’r cyfnod craffu 60 niwrnod llawn o dan y Weithdrefn Uwchgadarnhaol; ein huchelgais ni yw y caiff y rhain eu trafod ar y llawr hwn cyn i’r Cynulliad ddod i ben am doriad yr haf.  Caiff y rheoliadau sy’n weddill o dan gyfres  1, a wnaed gan ddefnyddio gweithdrefnau cadarnhaol a negyddol, eu gosod hefyd yn ystod y cyfnod hwn; unwaith eto, rydym yn gobeithio y caiff y rhain eu trafod yn ôl yr un amserlen.

Trefnir y bydd yr ail gyfres o is-ddeddfwriaeth ar gael at ddibenion ymgynghori o 8 Mai 2015; bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 12 wythnos tan 31 Gorffennaf. Mae’r rheoliadau, y codau ymarfer a’r canllawiau statudol hwn wedi cael eu cefnogi unwaith eto gan ymgysylltiad ystod o randdeiliaid. Bydd y gyfres hon yn creu system sy’n sicrhau canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya, yn hybu cydweithredu rhanbarthol, yn sefydlu system o godi tâl, asesu ariannol a thalu am ofal ac yn cefnogi darparu eiriolaeth.

Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u hymgorffori yn rhannau 5,6,9 a 10 o’r Ddeddf ac yn cael eu cyflwyno mewn pedwar pecyn ymgynghori cysylltiedig. Mae’r pedwar ymgynghoriad i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru trwy'r ddolenni ar ochr dde y tudalen yma.

Ar ôl i’r ymgynghoriad helaeth hwn ddod i ben ac ar ôl iddo gael ei ddadansoddi, mae’n fwriad gennyf osod y rheoliadau hyn, ynghyd â Memoranda Esboniadol ac Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, ym mis Tachwedd 2015. Caiff yr ystod gyfan o godau ymarfer mewn perthynas â’r ddwy gyfres eu gosod ym mis Tachwedd 2015, i gyd-fynd â cham terfynol y broses.

Byddaf wrth gwrs yn sicrhau bod yr aelodau’n cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad