Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansio Datganiad o Fwriad Strategol Datganiad o Fwriad Strategol gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddatblygu Strategaeth Ddata Genedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Fel y nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ein huchelgais yng Nghymru yw sicrhau bod pawb sy'n cael gofal a chymorth a'r holl ofalwyr di-dâl sy'n cael cymorth yn gallu cyflawni'r canlyniadau llesiant sydd bwysicaf iddynt.  Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â phobl yng Nghymru ac â’n partneriaid i gyflawni'r uchelgais hon.

Mae'r datblygiadau cyflym mewn technoleg, ochr yn ochr â gofynion digynsail y pandemig Covid-19, wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth mai dyma’r adeg iawn inni edrych yn fanwl ar yr anghenion gofal cymdeithasol ledled Cymru a sicrhau bod gennym weledigaeth glir, dryloyw a moesegol ar gyfer ein gofynion data nawr, ac ar gyfer y dyfodol.

Fis Tachwedd y llynedd, croesawais gyhoeddi'r Adroddiad Darganfod gan Gofal Cymdeithasol Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a ddatblygwyd drwy ymgysylltu'n helaeth â'n rhanddeiliaid gofal cymdeithasol.  Canfu'r adroddiad fod angen dybryd am ddatblygu Strategaeth Ddata Genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi cytunais mai dyma fyddai’r camau nesaf o ran datblygu'r Strategaeth Ddata:

    • Cyhoeddi Datganiad o Fwriad Strategol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn partneriaeth â NWIS, i nodi ein huchelgais gyffredin ar gyfer y Strategaeth Ddata Gofal Cymdeithasol Genedlaethol
    • Datblygu Cynllun Mapio ar gyfer y Strategaeth Ddata, yn nodi'r gwahanol ffrydiau gwaith sydd eu hangen i gyflawni'r prosiect, gan gynnwys cerrig milltir a chanlyniadau allweddol
    • Nodi'r Enillion Cyflym drwy weithio mewn partneriaeth â'r sector gofal cymdeithasol i gytuno ar y blaenoriaethau i'w cyflawni yn gyntaf ac yn gyflym.

Diolch yn fawr i'r holl randdeiliaid sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Datganiad o Fwriad Strategol.  Mae'r prosiect hwn yn dangos yr enghreifftiau gorau o gydweithio effeithiol a chydweithredol, ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau wrth i'r prosiect ddatblygu.

Mae gennym gyfle nawr i ddangos yr hyn y gall cenedl sy'n gyfoethog o ran data ei gyflawni ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth ac ar gyfer gofalwyr di-dâl sydd angen cymorth. Y Datganiad hwn o Fwriad Strategol yw'r cam nesaf tuag at wireddu'r weledigaeth hon.