Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Y Gweinidog Diwylliant Twristiaeth a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn lansio cronfa newydd gwerth £5m o'r enw y Gronfa Byw yn Iach ac Egnïol, gyda'r nod o gryfhau asedau cymunedol sy’n galluogi pobl i fyw mewn ffordd iachach. 


Mae'r manteision i'n hiechyd meddwl a'n hiechyd corfforol a ddaw o fabwysiadu ffyrdd o fyw iach ac egnïol yn glir. Drwy fyw bywyd mewn modd mwy egnïol, bwyta deiet cytbwys, yfed o fewn y terfynau a argymhellir, a rhoi'r gorau i smygu, rydym i gyd yn gallu lleihau'r risg o gael canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, yn ogystal â gwella ein llesiant meddyliol a lleihau'r risg o ddatblygu dementia. Bydd cyfnod cyntaf y gronfa felly'n canolbwyntio ar alluogi pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw egnïol.

Mae sicrhau llwyddiant 'Cymru Iachach' yn golygu defnyddio dulliau newydd o weithredu sy'n edrych y tu hwnt i'r gwasanaethau cymorth traddodiadol, gan ofyn inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd. Mae'r cydweithio hwn yn enghraifft o sut yr ydym yn disgwyl i'r sector cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n seiliedig ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd hefyd yn helpu i gyflawni'r ymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol' i sefydlu Bond Llesiant a Chronfa Her.  

Gall sefydliadau gofrestru eu diddordeb a chael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio HealthyandActiveFund@gov.wales.