Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi'r Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol a lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion sydd â'r bwriad o gefnogi'r gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau gwledig ac amgylcheddol.

Mae'r Papur Gwyn yn dwyn ynghyd ddwy set o gynigion sy’n gysylltiedig, ond yn wahanol. Mae Cymru wledig yn ganolog i'n huchelgais i ddarparu tegwch a chyfleoedd ym mhob rhan o Gymru. O ganlyniad, y cynnig cyntaf yr ydym yn ceisio barn arno yw dyletswydd statudol ar brawfesur gwledig i sicrhau bod anghenion gwledig yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd polisïau, gwasanaethau a rhaglenni yn cael eu datblygu a'u cyflawni.

Yn ail, rydym yn ceisio barn ar ystod o gynigion cynaliadwyedd amgylcheddol, i wneud ein deddfwriaeth yn gliriach, yn fwy ymarferol, ac i sicrhau ei bod yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ar newid hinsawdd, adfer natur, diogelu coetiroedd, rheoli gwastraff, gorfodi amgylcheddol a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol yn well. Yn y 100 Diwrnod Cyntaf, fe wnaethom ni ymrwymo i sefydlu gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur i helpu i wireddu ein huchelgais sero net ar gyfer 2040, a chefnogi adferiad natur sylweddol erbyn 2050. Mae'r Papur Gwyn hwn yn un o'r camau ymarferol yn y gwaith hwnnw a bydd yn helpu i sicrhau bod deddfwriaeth amgylcheddol yn parhau i fod yn effeithiol, yn gymesur ac yn gallu ymateb i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol. 

Mae'r Papur Gwyn hwn yn gyfle pwysig i helpu i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn parhau i gefnogi Cymru fwy cynaliadwy, gwydn a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwyf am glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion hyn. Bydd eich barn o gymorth i lunio cam nesaf y gwaith datblygu polisi ac yn llywio penderfyniadau ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn y meysydd pwysig hyn.

Mae copi o'r Papur Gwyn ar gael ar Gov.Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i drafod a chydweithio yn ystod y broses ymgynghori. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.