Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi 2012 lansiwyd y ‘Rhaglen Rhifedd Genedlaethol’ gennyf, oedd yn rhoi amlinelliad o raglen bum mlynedd o weithgareddau, wedi’u cynllunio i godi lefelau rhifedd disgyblion oedran ysgol ledled Cymru.  

Un o’r camau oedd wedi’u nodi yn ein rhaglen rhifedd oedd creu rhaglen o ymgysylltu â chyflogwr, oedd yn canolbwyntio ar rifedd, i annog ysgolion a chyflogwyr i gydweithio gyda’r nod o wella sgiliau rhifedd.  

Dengys tystiolaeth y gall ymgysylltu â chyflogwr helpu disgyblion i weld defnyddioldeb a gwerth rhifedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn y byd gwaith, drwy ddangos enghreifftiau o ddefnyddio rhifedd mewn bywyd go iawn.  

Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod bellach yn lansio Grant Ymgysylltu â Chyflogwyr ar Rifedd.  Bydd y grant yn gweithredu am gylch cyllido o ddwy flynedd, ac rydym wedi neilltuo £500,000 y flwyddyn i gefnogi’r rhaglen.  Bydd y grant hwn yn galluogi sefydliadau trydydd sector i froceru cysylltiadau newydd, neu i ddatblygu ymhellach y cysylltiadau presennol rhwng busnesau ac ysgolion uwchradd, a chynnig gweithgareddau i wella rhifedd.  Byddwn yn canolbwyntio ar y cychwyn ar ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 4, ond byddwn yn edrych eto ar hyn mewn cylchau cyllido yn y dyfodol.

Ar 18 Mawrth, byddwn yn gwahodd sefydliadau’r trydydd sector i gyflwyno ceisiadau ar sail ranbarthol, gyda’r rhanbarthau yn cyd-fynd â ffiniau consortia rhanbarthol addysg presennol.  Byddwn felly’n ariannu darparwr unigol neu gonsortia o ddarparwyr fesul rhanbarth; sef hyd at 4 sefydliad cydweithredol.  Nid yw’r dull hwn o weithio yn rhwystro unrhyw ddarparwyr rhag gwneud ceisiadau mewn mwy nag un rhanbarth.  Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ddefnyddio unrhyw rwydweithiau a chysylltiadau sydd eisoes yn bodoli o fewn eu rhanbarth i wneud y gorau o botensial y rhaglen hon i lwyddo.

Bydd angen i’r sefydliadau llwyddiannus ganolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol.  Yn gyntaf bydd disgwyl iddynt lunio cysylltiadau rhwng ysgolion a busnesau lleol a chael ymrwymiad i ddatblygu’r bartneriaeth.  Yna bydd disgwyl iddynt roi amlinelliad o anghenion penodol yr ysgol, a’u blaenoriaethu, wedi’u nodi drwy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, profion rhifedd a thystiolaeth Estyn er enghraifft.  Bydd angen iddynt nodi a chynllunio’r cymorth y mae modd i’r cyflogwr ei gynnig a chydweithio â’r cyflogwyr a’r ysgolion i sicrhau y caiff hyn ei gyflawni.  Byddem yn disgwyl i sefydliadau dynnu ar arfer gorau o weithgarwch llwyddiannus ym maes ymgysylltu â chyflogwyr o’u gwaith blaenorol eu hunain, ac o dystiolaeth sydd wedi’i gyhoeddi, yn ogystal ac o raglen ehangach o ymgysylltu â chyflogwyr; hynny yw, rhannu gyda phartneriaid broceriaeth eraill ledled Cymru.  

Pan gaiff y grant ei lansio, darperir dogfen ganllaw a ffurflen gais, yn egluro’n llawn sut y caiff y grant ei weithredu, y broses ymgeisio, a’r amserlen ar gyfer cyflenwi.  Rwy’n rhagweld y bydd y sefydliadau llwyddiannus yn dechrau ar eu gweithgarwch yn y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2013.