Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio Strategaeth Arloesi newydd Cymru, Arloesi Cymru: Creu Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach.

Mewn ffordd integredig a thrawslywodraethol, mae’n nodi o sut y gall arloesi gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu ar draws pob portffolio.

Mae pedair thema i’r Strategaeth – Addysg; yr Economi; Iechyd a Llesiant; a Hinsawdd a Natur, gyda phwyslais drwyddi draw ar gydraddoldeb, cynhwysiant, diwylliant o arloesi, cydweithredu ac effaith dinasyddion.

Rwyf wedi atodi copi o’r Strategaeth a byddaf yn rhoi Datganiad Llafur i Aelodau Senedd Cymru amdani fory, 28 Chwefror 2023.