Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol ddeng mlynedd gyntaf i Gymru ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol, ochr yn ochr â Chynllun Cyflawni tair blynedd o hyd sy'n nodi sut y bydd y gwaith hwn yn cael ei weithredu.

Gall cam-drin plant yn rhywiol achosi niwed dwfn a pharhaol. Gall effeithio ar iechyd, hyder, perthnasoedd ac addysg person, yn ogystal â'i gyfleoedd yn y dyfodol. Effeithir hefyd ar deuluoedd, cymunedau a chymdeithas, nid dim ond y plentyn. Dyna pam y mae atal cam-drin a chynorthwyo'r rhai sydd wedi ei brofi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae'r Strategaeth newydd hon yn dod â gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau arbenigol a chymunedau ynghyd ac, yn bwysicaf oll, mae'n rhoi plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n oroeswyr yn ganolog iddi. Mae'n nodi sut y byddwn yn cydweithio i atal cam-drin rhag digwydd, diogelu plant sy'n wynebu risg, a sicrhau bod goroeswyr yn cael y gofal a'r cymorth y mae eu hangen arnynt.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r rhai sydd â phrofiad bywyd a helpodd i lunio'r gwaith hwn. Mae eu dewrder a'u hagwedd agored wedi bod yn ganolog i ddatblygu'r Strategaeth, a bydd eu lleisiau'n parhau i lywio'r broses o'i rhoi ar waith. 

Mae hon yn Strategaeth uchelgeisiol ond, mae uchelgais o'r fath yn hanfodol os ydym am gyflawni newid ystyrlon a pharhaol. Ein nod ar y cyd yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel ac yn cael y cymorth y mae arno ei angen i ffynnu.

Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a gweithwyr proffesiynol a gyfrannodd at ddatblygu'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflawni dan sylw. Bydd eich ymroddiad a'ch partneriaeth yn hanfodol wrth inni symud ymlaen.

Gyda'n gilydd, gallwn barhau i adeiladu Cymru sy'n fwy diogel i bob plentyn.