Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n lansio ymgynghoriad heddiw ar ein cynigion ar gyfer Bil Amgylchedd.  Mae’r Bil yn elfen bwysig o’n Rhaglen Lywodraethu sy’n cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol.

Fel y dywedais yn natganiad yr hydref ‘Creu dyfodol cadarnach a mwy ffyniannus’, er mwyn creu dyfodol ar gyfer ein holl gymunedau ac economi lwyddiannus yn y dyfodol, rhaid wrth reolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol.  Hefyd, rhan ganolog o uchelgais y llywodraeth hon yw trechu tlodi yn ei holl ffurfiau ac ehangu’r economi mewn ffordd sy’n diogelu’r amgylchedd a helpu Cymru i greu cyfoeth.

Mae Bil yr Amgylchedd yn un o nifer o fesurau o dan ofal fy adran i sicrhau bod gennym y polisïau a’r ddeddfwriaeth i gyflawni’n hamcanion.  Ochr yn ochr â hyn oll, rydym hefyd wrthi’n sefydlu cronfa natur newydd gwerth £6 miliwn i gefnogi camau gweithredu ymarferol sy’n gwella bioamrywiaeth, yn creu swyddi lleol, yn grymuso pobl i gymryd camau positif ac yn dod â manteision sylweddol i gymunedau.

Ar hyd y canrifoedd, eu gallu i gael at adnoddau naturiol sydd wedi sbarduno twf gwledydd llwyddiannus.  Er mwyn sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol, rhaid cydnabod gwerth ein hadnoddau naturiol a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a’u rheoli’n ofalus er lles tymor hir Cymru.  Mae’n amlwg i ni nad yw ein fframwaith deddfwriaethol ar gyfer yr amgylchedd yn hwyluso twf economaidd cynaliadwy nac yn cydnabod ei berthynas bwysig â lles cymdeithasol, gan gynnwys trechu tlodi.

Ein bwriad yw i’r Bil hwn ategu deddfwriaeth cynllunio a datblygu cynaliadwy sy’n bod ac yn yr arfaeth, gan gynnwys y ddeddfwriaeth newydd yn y Biliau Diwygio Cynllunio a Chenedlaethau’r Dyfodol.  Trwy hynny, bydd yn atgyfnerthu’r angen i ystyried, wrth wneud penderfyniadau mawr heddiw, sut yr eir ati i gyflawni canlyniadau tymor hir y Llywodraeth hon a chydnabod y cysylltiadau rhwng trechu tlodi, ffyniant economaidd a’r defnydd o adnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Bydd Bil yr Amgylchedd yn gwneud hynny trwy’r ffyrdd canlynol:

  • Rhoi fframwaith statudol modern ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy trwy broses mwy cydgysylltiedig sy’n seiliedig ar ardal;
  • Rhoi swyddogaethau a dyletswyddau statudol newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru i’w helpu i gynnal ei bwrpas craidd a threialu ffyrdd newydd o weithio;
  • Arbed adnoddau’n well, er enghraifft trwy reoleiddio gwastraff, er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol Cymru; a
  • Symleiddio a chrisialu’r gyfraith mewn nifer o systemau rheoleiddio amgylcheddol, fel rheoli pysgodfeydd pysgod cregyn a thrwyddedau morol.


Rwy’n ymwybodol iawn bod angen i’r ddeddfwriaeth rydym yn ei chynhyrchu fod yn ymarferol a chymesur a gwneud y gorau o bob cyfle i gynnal swyddi a thwf.  Fel cam pwysig o hynny, bydd Bil yr Amgylchedd yn gosod allan fframwaith i flaenoriaethu’r cyfleoedd ar gyfer rheoli’n hadnoddau naturiol ac i sicrhau bod gennym y dystiolaeth i’n helpu i benderfynu ar siâp a chyfeiriad twf cynaliadwy yn ogystal â sicrhau’r buddiannau tymor hir gorau posibl i’n cymunedau, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Bil yr Amgylchedd yn para tan 13 Ionawr 2014. Cyhoeddir adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad yng ngwanwyn 2014.