Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn dechrau yn awr ar yr ail gam o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n sefydlu cyfundrefn reoleiddiol sy'n gyson â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal diogel, priodol, gydag urddas. Mae hefyd yn cynnal gwelliannau drwy ehangu pwerau Cyngor Gofal Cymru, sy'n cael ei alw yn Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn hyn, i gynnwys ysgogi, cefnogi a goruchwylio gwelliannau yn y sector.

Cafodd yr agwedd gyffredinol at y gyfundrefn reoleiddio ac arolygu newydd ei chreu gan Ddeddf 2016. Mae manylion y system i'w cael mewn amrywiol ffynonellau, gan gynnwys rheoliadau, cod ymarfer a chanllawiau statudol. Mae'r fframwaith statudol newydd hwn yn cael ei ddatblygu mewn tri cham sy'n gorgyffwrdd gyda chryn dipyn o drafod gyda'r rhanddeiliaid. Mae wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau posibl i'r sector a'r rheoleiddwyr ffurfio’r cynigion, ac amser i'w rhoi ar waith.

Cafodd elfennau o'r cam gweithredu cyntaf yn ymwneud â rheoleiddio'r gweithlu eu rhoi ar waith yn llwyddiannus ar 3 Ebrill eleni, pan gafodd Gofal Cymdeithasol Cymru ei sefydlu a'r broses rheoleiddio'r gweithlu newydd ei rhoi ar waith. Edrychaf ymlaen at weld y corff newydd, Gofal Cymdeithasol Cymru, yn defnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddo i gefnogi ac ysgogi gwelliannau yn y maes hanfodol hwn o'r sector.

Yn ystod y cam cyntaf hwn, dechreuodd trafodaeth am rai o'r prosesau sy'n sail i'r system newydd ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau. Yr agweddau penodol dan sylw yn y drafodaeth honno oedd cofrestru darparwyr gwasanaethau, datganiadau blynyddol a hysbysiadau i awdurdodau lleol. Gan ddatblygu ar hyn, yn ein hymgynghoriad ar gam 2, sydd newydd ei lansio, rydym yn troi ein golygon at reoleiddio gwasanaethau. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar y gofynion arfaethedig ar ddarparwyr gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol yn y sectorau cymorth yn y cartref a gofal preswyl i blant ac oedolion, a'r rheoliadau a'r canllawiau statudol sy'n nodi'r gofynion hynny.

Mae'r cam hwn hefyd yn rhoi cyfle inni ymchwilio i sut y gall gwaith rheoleiddio ac arolygu, ynghyd â gweithgarwch datblygu'r gweithlu, ein helpu i ymateb i rai o'r materion sydd angen rhoi sylw iddynt ar fyrder ym maes gofal yn y cartref. Mae fy swyddogion yn gweithio ar hyn o bryd i gwblhau ein cynigion deddfwriaethol yn y maes hwn, a'r bwriad yw dechrau ymgynghori arnynt, o dan gam 2, y mis nesaf. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau maes o law.

Bydd cam 3 yn nodi cwblhau'r fframwaith statudol. Byddwn yn edrych ar y gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol mewn gwasanaethau mabwysiadu, maethu, eirioli a lleoli oedolion (sy'n cael ei alw hefyd yn "cysylltu bywydau") yn ogystal â gofynion yn ymwneud â sefydlogrwydd y farchnad ac arolygu awdurdodau lleol.  

Bydd yr ymgynghoriad ar gam 2 yn cael ei gynnal am 12 wythnos er mwyn rhoi cymaint o gyfle â phosibl i bobl ymateb a dweud eu barn i helpu i siapio'r rhan hon o'r fframwaith statudol.  I gefnogi'r ymgynghoriad, rydym hefyd yn cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu hanner diwrnod i randdeiliaid. Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ar 21 Mehefin yng Nghaerdydd a 13 Gorffennaf yn Wrecsam. Diben y digwyddiadau hyn yw ennyn diddordeb rhanddeiliaid a sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o'r rheoliadau a'r testunau rydym yn ymgynghori arnynt, gyda'r nod o'u helpu i gynhyrchu eu hymatebion i'r ymgynghoriad. Bydd gwahoddiadau i'r digwyddiadau'n cael eu dosbarthu cyn hir ac rydym yn defnyddio rhwydweithiau rhanddeiliaid i gyrraedd cymaint o bobl sydd â diddordeb â phosibl.

Pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a'r ymatebion wedi cael eu dadansoddi, byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig i'r rheoliadau, ac yn eu diwygio yn unol â hynny yn ystod yr hydref. Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle i ystyried a ddylem newid y rheoliadau ynghylch gwasanaethau yr ymgynghorwyd arnynt yn ystod cam 1, gan edrych ar yr hyn y byddwn yn ei ddysgu yn sgil cynnal yr ymgynghoriad ar gam 2.

Rwy'n bwriadu i'r rheoliadau yn y cam hwn, ynghyd â'r rheoliadau ynghylch gwasanaeth yr ymgynghorwyd arnynt yn ystod cam 1, gael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd y flwyddyn hon, i ddod i rym ym mis Ebrill 2018. Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal wedi hynny ar reoliadau cam 3 yn ystod gwanwyn a haf 2018 a bydd y rhain yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn, i ddod i rym o fis Ebrill 2018. Bydd hyn yn nodi cwblhau'r fframwaith statudol ynghylch rheoleiddio gwasanaethau.

Disgwylir y bydd y Ddeddf gyfan wedi cael ei rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2019. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i baratoi i symud i'r system newydd a sefydlwyd dan Ddeddf 2016 a'u swyddogaethau newydd, pwysig yn hyn o beth.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cam-2-y-broses-o-roi-deddf-rheoleiddio-ac-arolygu-gofal-cymdeithasol-cymru-2016-ar