Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Mawrth y llynedd, gwneuthum y penderfyniad anodd i ohirio’r gwaith ar y Glasbrintiau ar gyfer Troseddwyr Benywaidd a Chyfiawnder Ieuenctid, a hynny mewn ymateb i Covid-19 a'r angen i'r holl bartneriaid cyflenwi ailgyfeirio eu hadnoddau. Ar 1 Gorffennaf 2020, ailddechreuodd y gwaith o roi’r ddau Lasbrint ar waith. Mae asesiad o’r cynlluniau gweithredu bellach wedi'i gynnal i adolygu'r hyn y gellir ei gyflawni o ran y prosiectau ac i ddiweddaru’r amserlenni. Lluniwyd cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru mewn ymgynghoriad â'n partneriaid allweddol, a byddant yn cael eu cyhoeddi heddiw. Mae’r cynlluniau hyn yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn nodi ein rhaglen waith at y dyfodol

Ers i'r gwaith ailddechrau, mae'r pethau allweddol y gellir eu cyflawni ar draws y ddau Lasbrint wedi'u cyflawni, gan helpu i sbarduno cynnydd a chyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynhyrchu Dadansoddiad o Broffil Troseddu Benywaidd, sy'n dadansoddi anghenion a bregusrwydd menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru ynghyd â ffeithluniau cysylltiedig. Mae adroddiad rheolaidd gan Bartneriaeth Menywod Cymru Gyfan hefyd wedi'i lunio i wella dealltwriaeth o risgiau, anghenion, gwendidau a chymhlethdodau menywod yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae'r ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn elfen greiddiol o'r Glasbrint Troseddwyr Benywaidd. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am nodi safleoedd posibl, ac mae'n ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol.
  • Cytunodd y Cabinet ar weledigaeth ar gyfer dyfodol darpariaeth ieuenctid ddiogel yng Nghymru fis Ionawr 2021. Mae Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydweithio i archwilio opsiynau sy'n diwallu anghenion plant Cymru yn y ddalfa yn y ffordd orau a fydd yn darparu gwasanaeth trawma integredig sy’n ymateb yn hyblyg i anghenion cymhleth y plant agored i niwed hyn.

Mae’r ddau Lasbrint yn rhoi pwyslais ar ymyrryd ac atal yn gynnar, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn darparu cymorth i ddargyfeirio pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf. Fis Rhagfyr 2020, ymwelais yn rhithwir â Dull System Gyfan y Rhaglen Fraenaru i Fenywod a'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 i oedolion ifanc. Mae’r Rhaglen Fraenaru i Fenwod yn rhan allweddol o'r Glasbrint Troseddwyr Benywaidd sy'n anelu at wella canlyniadau i fenywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. Drwy gydol y pandemig mae'r gwasanaeth wedi llwyddo i addasu ac i barhau i gefnogi rhai o'n menywod mwyaf agored i niwed. Clywais yn uniongyrchol gan fenywod a phobl ifanc a oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod yn cael cymorth, eu bod yn llai unig a bod eu bywydau wedi newid er gwell. Drwy ymyrryd yn gynnar mae'r gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth nid yn unig i'r unigolion eu hunain, ond i'w teuluoedd a'u cymunedau, ac mae hefyd yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau eraill, y mae llawer ohonynt yn dod o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Mae'r model hwn o ymyrryd ac atal yn gynnar yn allweddol, ac mae'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hwn yn brosiect a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Gwent a De Cymru, a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) yng Nghymru sy'n tynnu sylw at bŵer partneriaeth ac sy'n un o'r meysydd allweddol sy'n gysylltiedig â chyflawni'r Glasbrintiau.

Fel rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf, rydym yn dyrannu £500,000 arall i'r rhaglen Glasbrint a fydd yn cefnogi prosiectau sy'n cryfhau'r cysylltiadau rhwng menywod yn y carchar a'u plant, ac yn helpu i ddatblygu'r gwaith o ddarparu arferion sy'n seiliedig ar drawma i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn y Glasbrintiau yn helpu i ddarparu gwelliannau ystyrlon sy'n pontio'r cenedlaethau ym mywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae'r dull partneriaeth cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ganolog i ddatblygu a gweithredu'r Glasbrintiau. Mae'r berthynas hon wedi’u chryfhau ymhellach yn ystod y pandemig gan ein bod wedi gweithio'n agosach byth gyda'n partneriaid cyfiawnder allweddol a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru. Er bod cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl ar hyn o bryd, mae llawer o'r gwasanaethau sy'n hanfodol i weithredu'r ystad ddiogel i oedolion a chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru wedi'u datganoli i ni. Felly mae cydweithio'n hanfodol os ydym i ddatblygu ein hymrwymiadau i leihau aildroseddu a chefnogi teuluoedd er mwyn adeiladu cymunedau cryf a chadarn yng Nghymru,

Drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus rydym wedi gweithio'n agos gyda HMPPS, y Gwasanaeth Pobl Ifanc yn y Ddalfa (YCS), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i reoli'r achosion a lliniaru effaith y feirws, gan gydbwyso anghenion iechyd cymunedol ag iechyd a llesiant oedolion a throseddwyr ifanc.

Er y bu angen cyfyngiadau cadarn o fewn yr ystad ddiogel a’r gwasanaethau prawf i leihau trosglwyddo'r feirws ac achub bywydau, rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hynny sy'n rhan annatod o adsefydlu troseddwyr yn parhau i fod ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod dysgwyr wedi cael mynediad at adnoddau i gefnogi eu haddysg a'u llesiant. Mae gwasanaethau iechyd hanfodol wedi'u cynnal mewn carchardai ac mae cymorth iechyd meddwl i droseddwyr wedi'i gryfhau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda HMPPS a’r Awdurdodau Lleol i ddarparu llety diogel i droseddwyr sy'n gadael y carchar, gan sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a'r darpariaethau angenrheidiol i’w cadw eu hunain a'u cymunedau'n ddiogel.

Drwy gydweithio cadarnhaol, mae troseddwyr sy'n oedolion a throseddwyr ifanc bellach yn cael eu profi wrth gyrraedd yr holl garchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc a chartrefi diogel i blant yng Nghymru. Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym wedi rhoi protocol profi ar waith ar gyfer staff yn ein cartref diogel i blant. Mae protocol olrhain cysylltiadau cenedlaethol wedi'i sefydlu i leihau trosglwyddo ar draws sefydliadau diogel yng Nghymru ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i gael ei chyflwyno'n ddi-oed mewn carchardai, yn unol â'r rhaglen gymunedol. Rydym bellach yn gweithio'n agos gyda HMPPS, YCS ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynllunio'r gwaith o lacio’r cyfyngiadau o fewn yr ystad ddiogel a'r gwasanaethau prawf mewn ffordd ddiogel er mwyn sicrhau bod troseddwyr yn cael y cymorth hanfodol i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau.

Byddaf yn parhau i gyfarfod â Gweinidogion Cyfiawnder y DU, i drafod a bwrw ymlaen â’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r glasbrintiau a materion cyfiawnder ehangach a byddaf yn rhoi gwybod i'r aelodau am y cynnydd.