Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dyma’r pumed diweddariad am Law yn Llaw at Iechyd, cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru, sy’n rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am rai o’r prif ddatblygiadau dros y 12 mis diwethaf ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer cyflawni dros y 12 mis nesaf.

Mae Law yn Llaw at Iechyd yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer gwella iechyd pawb sy’n byw yng Nghymru gan leihau anghydraddoldebau iechyd hefyd wrth wneud hynny. Mae’n datgan ein hymrwymiad i gynnal GIG modern sy’n darparu gofal o ansawdd uchel yn gyson ac yn cwrdd yn hyderus â’r heriau mawr y mae’n eu hwynebu.

Am fod caledi’n parhau mewn cyfnod pan yw’r boblogaeth yn heneiddio a’r disgwyliadau sydd gan bobl am yr hyn y gall y GIG ei wneud drostynt yn fwy, mae ar y GIG angen llywodraeth sy’n barod i gefnogi’r gwasanaeth iechyd wrth iddo gymryd camau radical, sydd weithiau’n amhoblogaidd, i sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth a chwrdd â’r heriau a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd yn ystod 2014, rydym wedi canolbwyntio ar y canlynol:

  • Datblygu’r egwyddorion gofal iechyd darbodus sy’n sail i ddull o weithredu GIG Cymru;  
  • Hyrwyddo camau i ailgydbwyso gofal iechyd drwy lunio model newydd ar gyfer gofal sylfaenol, gan ategu hynny drwy lansio cynllun gofal sylfaenol newydd; 
  • Cymell byrddau iechyd i wella a mireinio eu ffordd o ymdrin â’r system gynllunio dair blynedd i’w galluogi i fanteisio ar yr hyblygrwydd ariannol sydd ar gael o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014;
  • Hyrwyddo mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; 
  • Buddsoddi yn y GIG i’w wneud yn gynaliadwy. 
Gwella iechyd a thrin salwch

Mae gwella iechyd y boblogaeth ac ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd yn parhau’n rhan ganolog o waith Llywodraeth Cymru. Gall deddfwriaeth fod yn arf allweddol wrth gyflawni’r agenda hon. Bydd Bil Iechyd y Cyhoedd, a gyflwynir yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys cyfres o gynigion mentrus i fynd i’r afael â heriau penodol o ran iechyd y cyhoedd mewn meysydd sy’n cynnwys rheoli tybaco, e-sigaréts, camddefnyddio alcohol a mynediad i doiledau at ddefnydd y cyhoedd. Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn pennu bod gwella iechyd yn nod canolog i’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae camau gan y GIG i leihau anghydraddoldebau iechyd a delio â’r ddeddf gofal wrthgyfartal yn sbardun allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei raglen Living Well sy’n ceisio lleihau nifer y bobl sy’n marw cyn pryd o glefyd cardiofasgwlaidd a chanser. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft o ddull o dargedu adnoddau i sicrhau bod y rheini sydd â’r angen mwyaf yn cael y ffeithiau sydd eu hangen arnynt a chymorth i benderfynu ar y ffordd orau o ddelio â’u materion iechyd personol.    

Rydym am wella’r ffordd y mae byrddau iechyd yn asesu angen lleol ac yn cynllunio’r defnydd o adnoddau i ddiwallu’r angen hwnnw. Cafwyd tystiolaeth sy’n dangos y gellir asesu anghenion a chynllunio gwasanaethau’n fwyaf effeithiol ar lefel cymunedau o tua 25,000 i 100,000. Fel rhan o’r ymdrech i wella gwasanaethau gofal sylfaenol, mae 64 o glystyrau gofal sylfaenol wedi’u sefydlu ledled Cymru i ddechrau ar y gwaith hwn.

Cafwyd cynnydd hefyd ar fesurau iechyd poblogaethau – mae’r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod lefel yr imiwneiddio cyffredinol ymysg plant yng Nghymru ar ei huchaf erioed. Mae mwy hefyd yn derbyn sgrinio serfigol a sgrinio’r fron.

Gofal iechyd darbodus

Mae Cymru ar y blaen mewn mudiad byd-eang newydd, sy’n ymestyn o wledydd America, ar draws Ewrop i Seland Newydd, ac yn ein herio i feddwl mewn ffordd wahanol am ofal iechyd. Gyda’n gilydd, rydym yn cwestiynu’r syniadau arferol am y ffordd o ddarparu gofal iechyd; am y berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ac am y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau am ein hiechyd ein hunain ac iechyd ein gwlad.

Ystyr gofal iechyd darbodus yw mai angen clinigol a blaenoriaethu clinigol fydd yn pennu’r dull o ddarparu gwasanaethau a’n bod yn canolbwyntio ar y pethau hynny sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd pobl ac yn defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae Comisiwn Bevan wedi codeiddio gofal iechyd darbodus yn set o egwyddorion ac mae hyn wedi caniatáu i Gymru ei droi o fod yn gysyniad sy’n cael ei rannu gan nifer bach o unigolion brwdfrydig i fod yn bwnc sy’n cael ei drafod gan lawer bellach ac yn cael ei wreiddio fwyfwy ym musnes GIG Cymru o ddydd i ddydd.

Cafwyd tystiolaeth dda eisoes fod gofal iechyd darbodus yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Byddwn yn rhoi prawf pellach ar yr egwyddorion eleni yng nghyswllt diabetes, pwysedd gwaed uchel, oncoleg, presgripsiynu mewn gofal sylfaenol a gofal llygaid.

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cymhwyso egwyddorion gofal iechyd darbodus at ofal sylfaenol, wrth i ni ailfodelu ac ehangu’r gweithlu gofal sylfaenol – drwy helpu i rannu’r llwyth gwaith sydd wedi’i ysgwyddo’n draddodiadol gan feddygon teulu’n unig; drwy newid y berthynas rhwng y rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau iechyd a’r rheini sy’n eu darparu; a thrwy ddarparu gofal diwedd oes.  

Mae’r camau i roi gofal iechyd darbodus ar waith yng Nghymru wedi’u disgrifio ar y wefan ryngweithiol Rhoi Gofal Iechyd Darbodus ar Waith – www. http://www.prudenthealthcare.org.uk/cy/.

Darparu gofal yn nes at y cartref

Mae naw o bob 10 o’r cysylltiadau â chleifion yn digwydd mewn gofal sylfaenol. Er hynny, ysbytai yw’r brif elfen yn ein gwasanaeth iechyd. Rhaid gwneud mwy i symud gwasanaethau allan o’r ysbytai ac i mewn i gymunedau, yn nes at gartrefi pobl.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymdrechu’n galetach byth i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd ataliol sy’n cael ei harwain gan ofal sylfaenol a chymunedol ac sydd wedi’i hintegreiddio â gofal cymdeithasol er mwyn darparu cymaint o ofal â phosibl yn nes at y cartref. Roedd hon yn elfen allweddol yn y weledigaeth yn Law yn Llaw at Iechyd.

Ym mis Tachwedd 2014, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun gofal sylfaenol newydd i Gymru ynghyd â chronfa gofal sylfaenol o £10 miliwn, ar ben y £3.5 miliwn a ddarparwyd i fyrddau iechyd yn 2014-15 i ddatblygu’r gweithlu gofal sylfaenol. Mae’r cynllun yn nodi set o gamau gweithredu allweddol i wella’r ffordd o gynllunio a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol cynaliadwy o ansawdd uchel i bawb.

Mae’n disgrifio’r hyn y gall pobl ddisgwyl ei gael gan wasanaethau gofal sylfaenol ac yn enwi pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu hyd Fawrth 2018. Y nod yw cynnwys yr holl sefydliadau a gwasanaethau hynny sy’n gallu helpu i bennu a diwallu anghenion lleol a chydweithio i gynllunio a darparu mwy o wasanaethau’n nes at y cartref ac, yn bwysig iawn, datblygu’r gweithlu gofal sylfaenol a’i wneud yn fwy amrywiol.

Bydd y 64 o glystyrau gofal sylfaenol newydd, a fydd yn gyrru’r GIG yng Nghymru, yn cael £6 miliwn o’r £10 miliwn sydd yn y gronfa gofal sylfaenol ar gyfer 2015-16 i roi atebion lleol ar waith i ddelio â heriau lleol. Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu clystyrau i gynllunio a chwrdd ag anghenion ar lefel leol iawn. Bydd £3 miliwn bellach yn mynd at gynnal cynlluniau braenaru strategol neu’n caniatáu i fyrddau iechyd a’u clystyrau gyflwyno diwygiadau’n gynt mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Defnyddir gweddill y gronfa – £1 filiwn – i gynnal rhaglen o waith sydd orau o’i wneud unwaith yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant i ailfodelu’r gweithlu lleol a chymorth ar gyfer addysg a datblygiad sefydliadol.

Bydd cyllid pellach o £50 miliwn ar gyfer y GIG yn 2015-16 yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol i gyflawni blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun gofal sylfaenol, gan gynnwys gwella iechyd poblogaethau, lleihau anghydraddoldebau iechyd a mynediad gwell a mwy modern i system iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac integredig.

Cynllunio’r gweithlu

Mae Law yn Llaw at Iechyd wedi’i seilio ar y cysyniad o “bwysigrwydd ein staff”. Mae system iechyd integredig Cymru’n cynnig y gallu i gynllunio’n effeithiol ar gyfer gweithlu sy’n cwrdd ag anghenion y dyfodol. Mae system gofal iechyd darbodus yn dibynnu ar weithlu lle y mae pobl yn gwneud dim ond yr hyn y maen nhw’n unig yn gallu ei wneud – byddant yn gweithio ar lefel eu harbenigedd clinigol ac nid o dani.

Bydd cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd i’r GIG yn cael ei ddatblygu, a fydd yn cynnwys gwaith sy’n cael ei wneud eisoes i gynllunio ar gyfer gweithlu’r dyfodol, gan gynnwys mabwysiadu egwyddorion gofal iechyd darbodus. Bydd dau faes gwaith yn cyfrannu ato – cynllun y gweithlu gofal sylfaenol ac adolygiad annibynnol o weithlu GIG Cymru, a gomisiynwyd o dan gytundeb cyflog yr Agenda ar gyfer Newid.

Bydd cynllun y gweithlu gofal sylfaenol yn ymdrin â nifer o’r materion y mae’r gweithlu gofal sylfaenol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, gan gynnwys ffyrdd posibl o recriwtio a chadw meddygon teulu a rôl ymarferwyr uwch. Bydd hefyd yn edrych ymlaen dros gyfnod hwy ar y ffordd y bydd byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn gallu hyrwyddo datblygiad y clystyrau yn y dyfodol.
 
Rydym yn buddsoddi mwy na £350 miliwn bob blwyddyn mewn addysg a hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol. Roeddwn wedi comisiynu adolygiad o’r trefniadau sy’n cynnal y buddsoddiad hwn er mwyn gweld a ydynt yn rhoi’r gwerth gorau am arian. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo a helpu i sbarduno’r newid mewn gwasanaethau yn y gymuned. Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau ar fuddsoddi yn y dyfodol.

Ad-drefnu gwasanaethau

Mae gwasanaethau gofal ataliol a sylfaenol a diogelu iechyd yn hanfodol i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau. Rhaid i Gymru hefyd fod â gwasanaethau diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel mewn ysbytai ar gyfer y rheini sydd â’u hangen. Mae byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd mawr ar ddatblygu cynlluniau rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy. Roedd yn naturiol bod rhywfaint o bryder ymysg y cyhoedd ynghylch newidiadau mewn gwasanaethau lleol hirsefydlog sy’n annwyl iddynt ond rhaid wrth newidiadau er mwyn cael sicrwydd a diogelwch yn y GIG yng Nghymru yn y tymor hir.

Yn Ne Cymru, bydd gofal mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gwasanaethau cleifion mewnol i blant a gwasanaethau damweiniau ac achosion brys i’r cleifion salaf a’r rheini sydd â’r anafiadau mwyaf difrifol yn cael eu canoli yn y dyfodol mewn pum ysbyty yn y rhanbarth. Ni fydd gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn cael eu darparu yn y dyfodol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i weithredu newidiadau mewn gwasanaethau y cytunwyd arnynt. Cafodd gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol eu canoli yn Ysbyty Glangwili, yng Nghaerfyrddin, yn Awst 2014 – cafwyd adborth cadarnhaol gan famau am yr uned newydd bwrpasol dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Llwynhelyg, yn Hwlffordd. Mae’r gwasanaeth newyddenedigol newydd yn ardal Hywel Dda bellach yn cyrraedd nifer o’r safonau Cymru gyfan nad oedd y gwasanaeth blaenorol ar ddau safle wedi’u cyrraedd.

Mae’r astudiaeth annibynnol o Ganolbarth Cymru wedi nodi nifer o’r materion ac atebion posibl ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel sy’n hygyrch, yn ddiogel a chynaliadwy i gwrdd ag anghenion penodol pobl sy’n byw mewn ardal sy’n wledig gan mwyaf. Mae Rhaglen Gofal Gydweithredol y Canolbarth yn symud ymlaen â gwaith yr astudiaeth, dan arweiniad dau gadeirydd annibynnol.

Yng Ngogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i weithredu newidiadau mewn gwasanaethau ac mae nifer o hen ysbytai cymunedol wedi cau. Bydd gwasanaethau newydd yn darparu mwy o ofal yn nes at gartrefi cleifion.

Comisiynwyd Ann Lloyd i gynnal adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd ar ôl yr ymgysylltu ac ymgynghori gan y byrddau iechyd ar gam cyntaf y newidiadau mewn gwasanaethau iechyd. Gwneir rhagor o waith ar yr argymhellion er mwyn cyflwyno newidiadau hanfodol yn gyflymach mewn gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol.

Cafwyd cynnydd mawr ar weithredu’r argymhellion yn adolygiad McClelland o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Penodwyd prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans i sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio, drwy’r Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, i ddarparu ymateb ambiwlans brys.

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cael cyllid ychwanegol i uwchraddio eu fflyd a recriwtio mwy na 100 o staff rheng flaen. Fodd bynnag, mae’r perfformiad ar yr amser ymateb categori A o wyth munud yn parhau’n her.

Anelu at ragoriaeth

Mae Law yn Llaw at Iechyd yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau gwell diogelwch ac ansawdd er mwyn gwella canlyniadau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Fframwaith Safonau Iechyd diwygiedig i GIG Cymru, sydd wedi’i ddatblygu ar ôl cynnal proses gynhwysfawr a oedd yn cynnwys adolygiad o dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Mae’r safonau newydd yn cyfuno’r safonau Hanfodion Gofal a’r safonau iechyd presennol mewn un fframwaith.

Bydd un Fframwaith Safonau Iechyd integredig, a fydd yn symleiddio’r 26 o Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru a’r 12 safon Hanfodion Gofal i greu saith thema ansawdd a 24 o safonau iechyd.


Ymddiried mewn Gofal

Ym Mai 2014, cyhoeddwyd Ymddiried mewn Gofal, adroddiad am ansawdd y gofal ar gyfer pobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â gofal mewn dau ysbyty ond mae wedi’i ddefnyddio i sbarduno gwelliant mewn safonau gofal ledled Cymru.  

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, sefydlwyd grŵp llywio i hyrwyddo camau i weithredu’r argymhellion ar gyfer gwella ansawdd a diogelwch cleifion ar gyfer pobl hŷn ym mhob rhan o GIG Cymru.  

Cynhaliwyd cyfres o hapwiriadau dirybudd ar wardiau yn yr holl ysbytai cyffredinol dosbarth, a gafodd nad oedd unrhyw faterion cyffredinol a oedd yn peri pryder o ran diffyg hylif mewn cleifion, anghenion ymataliaeth neu’r defnydd o dawelyddion ac a oedd yn canmol yr enghreifftiau o ofal da a welwyd. Er hynny, roeddent wedi tynnu sylw at rai meysydd penodol lle y mae angen gwelliannau, yn enwedig ynghylch rheoli meddyginiaethau, ac mae’r rhain yn cael sylw.

Ehangwyd yr hapwiriadau i gynnwys wardiau iechyd meddwl pobl hŷn dros y gaeaf. Bydd y canfyddiadau o’r holl hapwiriadau’n helpu’r GIG i barhau i wella’r gofal am bobl hŷn yng Nghymru a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu ar draws GIG Cymru.

Cynlluniau cyflawni

Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau cyflawni manwl ar gyfer pob un o’r prif wasanaethau sy’n pennu gwelliannau mewn gwasanaethau ac wedi cyhoeddi adroddiadau blynyddol am nifer ohonynt sy’n nodi’r cynnydd a wnaed, yn unol â’r ymrwymiadau yn Law yn Llaw at Iechyd. Mae’r cynnydd a gafwyd ers cyhoeddi’r diweddariad diwethaf yn Rhagfyr 2013 yn cynnwys:  

  • Cyhoeddwyd yr ail adroddiad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser ar 31 Ionawr 2014, ynghyd â chanlyniadau’r Arolwg o Brofiad Cleifion Canser; 
  • Mae’r holl fyrddau iechyd wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu sy’n disgrifio gweithgarwch lleol i weithredu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes;
  • Mae pob bwrdd iechyd wedi llunio Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon;
  • Cyhoeddwyd y cynlluniau cyflawni ar gyfer gofal niwrolegol ac anadlol;
  • Cyhoeddwyd yr ail adroddiad blynyddol ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ym mis Tachwedd 2014;  
  • Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y cynllun gwasanaethau gofal critigol ym mis Gorffennaf 2014 a oedd yn pennu llinell sylfaen glir ar gyfer darparu gwasanaethau i gleifion sydd â salwch critigol, gan ategu’r adroddiadau unigol sydd wedi’u llunio eisoes gan fyrddau iechyd;
  • Mae Bwrdd Gweithredu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi canolbwyntio ar ddatblygu system wybodaeth newydd am gleifion diabetes; gwella’r gallu i gael gafael ar addysg strwythuredig am ddiabetes; a rhoi mwy o bwyslais ar bediatreg ac achosion o ddiabetes math 1 sy’n gysylltiedig;  
  • Mae pob bwrdd iechyd wedi cyhoeddi cynllun lleol iechyd y geg ar gyfer ei ardal.


Sicrhau bod pob ceiniog yn cyfrif

Roedd Law yn Llaw at Iechyd yn rhwymo Llywodraeth Cymru i roi system ariannol newydd ar waith i wella’r ffordd o gynllunio a defnyddio adnoddau ariannol yn unol â blaenoriaethau clinigol.

Er bod pwysau sylweddol ar y GIG yng Nghymru o ran gwasanaethau a chyllid ac er bod galw cynyddol ar gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, roedd y gwariant ar gyfer 2013-14 wedi’i reoli’n llwyddiannus o fewn y terfyn adnoddau cyffredinol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield, Degawd o galedi yng Nghymru?, yn dangos yn ddiamwys fod gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi ymateb i’r cyfnod o galedi drwy wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn sylweddol mewn ymateb i’r pwysau o ran cyllid a galw. Am eu bod wedi gwneud hynny, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru’n parhau’n fforddiadwy yn y dyfodol.

Cafodd GIG Cymru £40 miliwn ychwanegol yn 2014-15 o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i’w helpu i ddelio â phwysau’r gaeaf. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad am £200 miliwn ychwanegol ar gyfer 2014-15, gan ddod â’r buddsoddiad ychwanegol yn y GIG yn y flwyddyn ariannol hon i bron chwarter biliwn o bunnoedd.

Bydd £295 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn 2015-16, gan ddangos ein hymrwymiad clir i sicrhau GIG cynaliadwy yng Nghymru ar sail y diwygiadau sydd wedi’u nodi yn adroddiad Nuffield.  

Mae Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2014, yn rhoi hyblygrwydd i fyrddau iechyd i reoli eu cyllid dros gyfnod o dair blynedd, gan gynnig cyfle gwirioneddol iddynt gynllunio’n fwy darbodus ac osgoi gwneud penderfyniadau tymor byr amhriodol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae’r Ddeddf, a’r fframwaith cynllunio sy’n ei hategu, yn gosod uchelgais clir ar gyfer creu system gynllunio sy’n fwy trylwyr ac integredig. O dan y system, rhaid i holl sefydliadau’r GIG ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig, ar gyfer eu cymeradwyo gan Weinidogion.

Roedd pedwar sefydliad wedi sicrhau cymeradwyaeth Weinidogol yn y cylch cynllunio cyntaf (2014-15).  Roedd y sefydliadau a oedd yn weddill wedi cytuno ar gynlluniau un flwyddyn ac wedi nodi’r camau y byddent yn eu cymryd i gryfhau eu cynlluniau tymor canolig i’w cyflwyno yn Ionawr 2015. Mae’r cyflawni ar yr holl gynlluniau’n cael ei dracio drwy’r trefniadau cyflawni a pherfformio cenedlaethol gan gynnwys, lle bo’n briodol, y defnydd o drefniadau i ymyrryd ac uwchgyfeirio.


Casgliad

Rydym yn parhau i wneud cynnydd da ar ein holl ymrwymiadau polisi iechyd allweddol.  Mae’r gwelliannau a mentrau sydd wedi’u hyrwyddo o dan Law yn Llaw at Iechyd ac sydd bellach wedi’u seilio ar yr agenda gofal iechyd darbodus yn ceisio sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn parhau’n ddiogel ac effeithiol ac yn ceisio dod yn fwy integredig, cynaliadwy a chydnerth.  

Mae sgorau am fodlonrwydd cleifion yn parhau’n uchel, diolch yn bennaf i ymroddiad y staff sy’n darparu gwasanaethau. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu holl waith caled.